Grŵp ethnig Tyrcig sydd yn frodorol i'r rhanbarth rhwng Afon Volga a Mynyddoedd yr Wral yn nwyrain Rwsia Ewropeaidd yw'r Tsafasiaid (Tsafasieg: чăвашсем trawslythreniad: Čăvašsyem). Maent yn byw yn bennaf yn Tsafasia a gweriniaethau cyfagos yn Ffederasiwn Rwsia. Amcangyfrif bod 1.5–2 miliwn ohonynt ar draws y byd. Y Tsafasiaid a'r Gagauz ydy'r unig bobloedd Dyrcig sydd wedi eu troi at Eglwys Uniongred Rwsia.[1]

Hanes golygu

Cofnodwyd enw'r Tsafasiaid am y tro cyntaf mewn ffynonellau Rwseg ym 1508. Mae union darddiad y Tsafasiaid yn ansicr, ond mae ysgolheigion yn cytuno'n gyffredinol eu bod yn disgyn o dri grŵp o leiaf, sef y Bolgariaid a ymsefydlodd ar lannau'r Volga yn y 7g, y Sabir a ymfudodd o'r Cawcasws yn y 8g, a'r llwythau Ffinno-Wgrig a drigodd yn Tsafasia cyn i'r bobloedd Dyrcig gyrraedd. Byddai teyrnas Volga-Bolgaria yn tra-arglwyddiaethu'r rhanbarth o'r 10g nes i'r Mongolwyr orchfygu'r Bolgariaid ym 1236. Daeth y Tsafasiaid felly dan reolaeth yr Ymerodraeth Fongolaidd, ac yna'r Llu Euraid a Chaniaeth Kazan, nes iddynt ddod yn ddeiliaid i Tsaraeth Rwsia ym 1551.[1]

Diwylliant golygu

Iaith golygu

Iaith Dyrcaidd o'r gangen Oghur yw'r Tsafasieg, sydd yn disgyn o'r hen Folgareg, iaith y Bolgariaid.[2] Dyma'r unig iaith fyw o'r gangen Oghur, a chedwir nifer o elfennau hynafaidd o'r Folgareg ganddi. Mae'r Tsafasieg felly yn dra-gwahanol i'r ieithoedd Tyrcaidd eraill, ac ar un pryd roedd ieithyddion yn credu iddi perthyn i gangen rhwng y teuluoedd Tyrcaidd a Mongolaidd, neu yn ffurf Dyrcigedig ar iaith Ffinno-Wgrig. Ysgrifennwyd y ffurf gynharaf ar Tsafasieg mewn llythrennau rwnig yr Hen Dyrceg, a newidiwyd at yr wyddor Arabeg yn ystod oes Volga-Bolgaria. Yn y 18g, datblygwyd gwyddor unigryw ar sail llythrennau Cyrilig, a chyhoeddwyd y gramadeg Tsafasieg cyntaf ym 1769. Dyfeisiwyd gwyddor newydd gan yr addysgwr Ivan Yakovlev ym 1871.[1]

Crefydd golygu

Ffurf ar animistiaeth oedd crefydd gyntefig y Tsafasiaid, a châi ei dylanwadu gan Zoroastriaeth, Iddewiaeth (drwy'r Chasariaid), ac Islam. Byddent yn anrhydeddu elfennau tân, dŵr, yr haul, a'r ddaear, ac yn credu mewn ysbrydion y da a'r drwg.

Erbyn canol y 18g, trodd y mwyafrif o Tsafasiaid yn Gristnogion o ganlyniad i ymddiwylliannu â mewnfudwyr Rwsiaidd a chenadaethau gan Eglwys Uniongred Rwsia. Trodd lleiafrif ohonynt yn Fwslimiaid a byddent yn cymhathu i ddiwylliant ac iaith Tatariaid y Volga. Goroesodd yr hen grefydd baganaidd mewn ambell gymuned ar wasgar.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) Daniel E. Schafer, "Chuvash" yn Encyclopedia of Russian History. Adalwyd ar Encyclopedia.com ar 11 Rhagfyr 2021.
  2. John R. Krueger (1961). Chuvash Manual. Introduction, Grammar, Reader, and Vocabulary (yn Saesneg). tt. 7–8.