Tudno

sant Cymreig o Ogledd Cymru

Tudno (bl. 6g efallai) yw nawddsant Llandudno yng ngogledd Cymru. Ceir eglwys a gysegrwyd iddo ar Y Gogarth, ger Llandudno. Dethlir Ŵyl Mabsant ar 5 Mehefin.

Tudno
Ganwyd6 g Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaetharweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Swyddabad Edit this on Wikidata
Cysylltir gydaLlandudno Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl5 Mehefin Edit this on Wikidata
Gweler hefyd Tudno (gwahaniaethu).

Hanes a thraddodiad golygu

Ychydig a wyddys amdano. Yn ôl traddodiad roedd yn un o saith mab Seithenyn, porthor llys Gwyddno Garanhir. Pan foddwyd Cantre'r Gwaelod oherwydd esgeulustra Seithenyn aeth ei feibion yn fynachod ym Mangor Is-Coed. Yno yn y clas roedd Tudno yn ddisgybl i Dunawd Sant.[1]

O Fangor Is-Coed aeth Tudno i Ben y Gogarth a sefydlodd eglwys yno a elwir Eglwys Tudno ar ei ôl. Ceir llefydd eraill cysylltiedig â'r sant ar y Gogarth, fel 'Ffynnon Tudno'. Yn ôl traddodiad roedd yn byw am gyfnod fel meudwy yn 'Ogof Llech'. Mae 'Crud Tudno' yn enw ar faen sigl ar y Gogarth yn ogystal.[2]

Llongau Tudno golygu

Enwyd dwy long ar ôl y sant, sef yr USS Tudno a'r St Tudno. Roedd yr olaf yn gweithio hyd dechrau'r 1960au ar y gwasanaeth fferi rhwng Llandudno ac Ynys Manaw.

Cyfeiriadau golygu

  1. T. D. Breverton, The Book of welsh Saints (Caerdydd, 2001).
  2. E. D. Rowland, Dyffryn Conwy a'r Creuddyn (Lerpwl, 1947).