Turnverein

Cymdeithasau gymnasteg Almaenig

Roedd y Turnverein yn glybiau gymansteg a sefydlwyd gan Friedrich Ludwig Jahn i hyrwyddo diwylliant yr Almaen, diwylliant corfforol, gwleidyddiaeth ryddfrydol a ddaeth, maes o law, yn enghreaifft ar gyfer clybiau athletau a gymnasteg eraill. Bu iddynt wreiddio hefyd yn yr Unol Daleithiau drachefn gyda'r chhefnogwyr yn cefnogi ymdrech yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America.

Turnverein
Mathmabolgampwr Edit this on Wikidata
Rhan oTurner movement Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Arfbais yr Alter Turnverein Görlitz
Neuadd gymnasteg y Turner Hall, Milwaukee, Wisconsin, c1900
3,000 Turners yn perfformio yn y Federal Gymnastics Festival yn Milwaukee, 1893
Sefydlwyd neuaddau gymnasteg a diwylliant gan y Turners yn yr UDA megis 'Germania Singing and Sport Society', Columbus, Ohio

Hanes golygu

Yn yr Almaen, cychwynnwyd mudiad gymnasteg mawr gan y Turnvater ("tad gymnasteg") a'r cenedlaetholwr Friedrich Ludwig Jahn ar ddechrau'r 19g adeg goruchfygiad yr Almaen gan Napoleon. Sefydlodd Jahn ei Turnverein gyntaf ym Merlin yn 1811.[1] Roedd y Turnvereine ("undebau gymnasteg"; o'r Almaeneg turnen sy'n golygu "ymarfer gymnasteg," a Verein yn golygu "clwb, undeb") nid yn unig yn glybiau athletaidd ond hefyd yn sefydliadau gwleidyddol, gan adlewyrchu eu tarddiad mewn sefydliadau "gymnasteg cenedlaethol" cenedlaetholaidd. Mae'r term nawr hefyd yn dynodi lle ar gyfer ymarfer corff. Roedd y turnvereins cynnar yn ganolfannau ar gyfer meithrin iechyd ac egni trwy ymarfer gymnasteg, gan gynnwys defnyddio offer gymnasteg modern fel y bar llorweddol, bariau cyfochrog, ceffyl ochr, a cheffyl cromennog. Bwriad y sefydliadau hefyd oedd paratoi ieuenctid yr Almaen i amddiffyn eu gwlad yn erbyn Ffrainc Napoleon, ac anogwyd gymnastwyr i ddatblygu ysbryd gwladgarwch a Deutschheit (“Almaenigrwydd”).

Bu iddynt ysbrydoli clybiau tebyg fel y Sokol a sefydlwyd fel rhan o'r dadeni yng nghenedlaetholdeb Tsieceg yn 1862 ac a ddaeth yn rhan o'r amrywiol fudiadau cenedlaethol dros annibyniaeth. Roedd mudiad Turner yn yr Almaen yn gyffredinol ryddfrydol ei natur, a chymerodd llawer o Turner ran yn Chwyldroadau 1848.[2]

Unol Daleithiau golygu

Wedi methiant Chwyldro 1848 yn yr Almaen, ataliwyd mudiad Turner, a gadawodd llawer o Turner yr Almaen, rhai yn ymfudo i'r Unol Daleithiau, yn enwedig i ranbarth Dyffrynnoedd Ohio, Wisconsin, Missouri, a Texas. Aeth nifer o'r Pedwar Deg Wythwr hyn ymlaen i ddod yn filwyr Undebol, a daeth rhai yn wleidyddion Gweriniaethol.[2] Ar wahân i wasanaethu fel sefydliadau addysg gorfforol, cymdeithasol, gwleidyddol a diwylliannol ar gyfer mewnfudwyr o'r Almaen, roedd Turners hefyd yn weithgar mewn addysg gyhoeddus a mudiadau llafur.[3] Roeddent yn hyrwyddwyr gymnasteg blaenllaw yn yr Unol Daleithiau fel chwaraeon ac fel pwnc ysgol.[6] Yn yr Unol Daleithiau, dirywiodd y mudiad ar ôl 1900, ac yn enwedig ar ôl 1917.[4]

Roedd y "Turners" (Almaeneg: Turner) yn aelodau o glybiau gymnasteg Almaeneg-Americanaidd a chefnogwyd ymdrech rhyfel yr Undeb yn ystod Rhyfel Cartref America. Turners, yn enwedig Francis Lieber, 1798–1872, oedd prif noddwyr gymnasteg fel camp Americanaidd a maes astudiaeth academaidd.

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. "Turnverein". Encyclopaedia Britannica. Cyrchwyd 26 Ebrill 2022.
  2. Claire E. Nolte. "The German Turnverein". Encyclopedia of 1848 Revolutions. Cyrchwyd January 9, 2011.
  3. Annette R. Hofmann (August 3, 1998). "150 years of Turnerism in the United States". Indiana University-Purdue University Indianapolis Max Kade Center. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2018-10-12. Cyrchwyd 2022-04-26.
  4. Annette R. Hofmann, "Transformation and Americanization: The American Turners and their new identity." International Journal of the History of Sport 19.1 (2002): 91-118.
  Eginyn erthygl sydd uchod am chwaraeon. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.