Friedrich Ludwig Jahn
Gelwir Friedrich Ludwig Jahn, (ganwyd 11 Awst 1778, Lanz, Brandenburg, Prwsia - bu farw 15 Hydref 1852, Freyburg an der Unstrut, Sacsoni Prwsia), yn Turnvater (“Tad Gymnasteg”) yr Almaen a sefydlodd y mudiad turnverein (clwb gymnasteg) yn yr Almaen. Roedd yn wladgarwr selog a gredai mai addysg gorfforol oedd conglfaen iechyd a chryfder cenedlaethol ac yn bwysig wrth gryfhau cymeriad a hunaniaeth genedlaethol.
Friedrich Ludwig Jahn | |
---|---|
Ganwyd | 11 Awst 1778 Lanz |
Bu farw | 15 Hydref 1853 Freyburg |
Dinasyddiaeth | Teyrnas Prwsia |
Alma mater | |
Galwedigaeth | addysgwr, athro, gwleidydd, gymnast |
Swydd | Member of the Frankfurt Parliament |
Gwobr/au | Hall of Fame des deutschen Sports |
Chwaraeon |
Cefndir
golyguAstudiodd Jahn ddiwinyddiaeth, hanes a ieitheg (1796-1802) ym mhrifysgolion Halle, Frankfurt an der Oder, Göttingen, a Greifswald. Treuliodd y blynyddoedd nesaf yn tiwtora, teithio, a mynychu dosbarthiadau yn Jena a Göttingen. Yn 1809 ymgartrefodd yn Berlin, lle daliodd sawl swydd ddysgu mewn ysgolion uwchradd. Yno dechreuodd raglen o ymarfer corff awyr agored i fyfyrwyr. Dyfeisiodd sawl cyfarbar a dull gymnasteg sydd dal i'w defnyddio heddiw ar gyfer ymarfer cordd a chystadlu:
Sefydlodd ddilyniant cryf ymhlith ieuenctid ac oedolion ac yn 1811 agorodd ei glwb gymnasteg cyntaf.[1] Cynhaliwyd hyn ar 18 Mehefin 1811 yn Hasenheide, Berlin gan gynnal y wers yn yr awyr agored.[2]
Cenedlaetholdeb
golyguYn 28 oed ymunodd â byddin Prwsia yn dilyn gorchfygiad gwaradwyddus Prwsia ym mrwydrau gefell Jena ac Auerstädt ym 1806. Flwyddyn yn ddiweddarach gorfododd ail Gytundeb Tilsit y Brenin Frederick William III i glymu hanner tiriogaeth Prwsia. Priodolodd Jahn angeu milwrol Prwsia i’w arwahanrwydd oddi wrth ei chymdogion yn yr Almaen ac i’r diffyg ymwybyddiaeth genedlaethol ymhlith taleithiau’r Almaen o’i gymharu â’r ysfa genedlaetholgar a oedd yn bywiogi’r Ffrancwyr. Felly daeth i eirioli uno'r Almaen.[3]
Yn 1813 ymunodd Jahn â chorff gwirfoddol Lützow (y "Schwarze Jäger") a gorchymyn ei drydydd bataliwn tan ar ôl cwymp Napoleon ym 1815, gan ddychwelyd wedyn i Berlin ac ailafael yn ei waith fel athro gwladol yn ei glwb gymnasteg. Cyhoeddwyd Deutsche Turnkunst zur Einrichtung der Turnplätze ("A Treatise on Gymnastics", 1828), a ysgrifennwyd gydag Ernst Eiselen, yn 1816. Yn hinsawdd ymatebol wleidyddol 1819, daeth Jahn dan amheuaeth am ei safbwyntiau cenedlaetholgar cegog a'i ddylanwad cryf ar ieuenctid, a'r arestiodd y llywodraeth ef, cau ei glwb gymnasteg, a'i garcharu am bron i flwyddyn. Ar ôl ei ryddhau cafodd ei gyfyngu i ddinas Kolberg hyd 1825, pan gafodd ei ryddid. Cafodd ei wahardd, fodd bynnag, i fyw mewn dinas gyda phrifysgol neu ysgol uwchradd, ac felly symudodd i Freyburg der Unstrut, lle bu’n byw weddill ei oes. Dyfarnwyd y Groes Haearn i Jahn am ddewrder milwrol ym 1840.
Ddwy flynedd yn ddiweddarach codwyd gwaharddiad cenedlaethol ar gymnasteg, a oedd wedi bod mewn grym ers 1819. Gwasanaethodd yn y senedd genedlaethol (1848-49).
Ysgrifennodd Jahn amddiffyniad egnïol o genedlaetholdeb diwylliannol, yn seiliedig ar ei ymchwiliad i iaith a diwylliant yr Almaen, Das Deutsches Volkstum (“Cenedligrwydd yr Almaen”; 1810).[1]
Cyfunodd Jahn ei ddiwygiad rhyddfrydol â gweledigaeth wleidyddol genedlaetholgar a oedd yn rhagweld uno'r Almaen; am ei amser, roedd yn cael ei ystyried yn rhyddfrydwr.[4] Gydag amser, esgorodd ei fudiad ar ddiwylliant mwy militaraidd.
Jahn a'r iaith Almaeneg
golyguRoedd Jahn yn un o ladmeiryddion cynnar mwyaf dylanwadol drps undod cenedlaethol yr Almaen, ynghyd ag Ernst Moritz Arndt a Johann Gottlieb Fichte. Credwyd mai gwaith Jahn, Deutsches Volkstum a gwaith Fichte, Addresses to the German Nation oedd y testunau cenedlaetholgar Almaeneg mwyaf arwyddocaol ar y pryd
Fel Fichte, amddiffynnodd Jahn yr iaith Almaeneg yn frwd. Ar y pryd roedd Ffrangeg yn cael ei hystyried yn iaith ffasiynol ymhlith yr uchelwyr a'r dosbarthiadau canol uchelgeisiol, tra bod Almaeneg yn cael ei hystyried yn gyffredin. Condemniodd Jahn hyn a cheisio adfer Almaeneg fel iaith diwylliant a gwleidyddiaeth yn yr Almaen. Credai fod iaith yn rhan annatod o hunaniaeth genedlaethol:
"Mae pawb yn urddas ei hun trwy ei famiaith, lle mae dogfennau ei hanes diwylliannol yn cael eu cofnodi. … Mae pobl sy'n anghofio ei hiaith ei hun yn ildio'i hawl i leisio barn ymysg dynoliaeth ac yn cael rôl dawel ar lwyfan y byd."
Roedd Jahn yn ffan yn ei burdeb ieithyddol a gwrthododd bob gair benthyciad tramor. Dyfeisiodd ef a'i ddilynwyr dermau Almaeneg ar gyfer ymarferion corfforol ac offer fel dewisiadau amgen i'r derminoleg Ffrengig safonol a ddefnyddid ar y pryd i ddisgrifio difyrrwch chwaraeon yr uchelwyr. Felly daeth “rapier” yn “Fechtel,” daeth “croisé” (term ffensio) yn “Scheere,” daeth “balancer” yn “schweben,” ac ati. Fe wnaethant hefyd gyflwyno geiriau Almaeneg a ddefnyddir yn gyffredin gan helwyr, morwyr, seiri a masnachwyr eraill i'r terminoleg gymnasteg.[5]
Gwaddol
golyguRoedd cyfraniad Jahn at greu cyfarpar, ymarferion, canllawiau gymnasteg a'i phoblogeiddio'n dorfol yn hollol sylfaenol ar gyfer poblogrwydd y campau. Hebddo byddai sawl agwedd a champ gymnasteg heb fodoli o gwbl.
Enwir mwy o strydoedd yn yr Almaen ar ôl Jahn nag hyd yn oed y llenor, Friedrich Schiller.[6]
Poblogeiddiodd Jahn arwyddair y pedwar Fs "frisch, fromm, fröhlich, frei" ("ffres, duwiol, siriol, rhydd") ar ddechrau'r 19g a ddefnyddiwyd fel arwyddair.[7]
Oherwydd cyswllt rhwng term Jahn, Volkstum rhwng cenedligrwydd ac ethnigrwydd Almaenig (roedd yn gwrthod bod yr Iddewon yn wir Almaenwyr, efallai'n rhannol oherwydd eu cefnogaeth i lywodraeth Napoleon, ac felly daorstwng yr Almaen). Ar 18 Hydref 1817, ymgynnullodd 500 o aelodau Burschenschaft yn y Wartburg er mwyn cynnal gŵyl er anrhydedd cenedlaetholdeb Almaeneg ac i wrthdystio’r gwrthwynebiad adweithiwyr ceidwadol i uniad yr Almaen. Ar ôl seremonïau’r ŵyl, trefnodd dilynwyr Jahn lyfr yn llosgi lle dinistriwyd copïau o lyfrau gwrth-Almaeneg, gwrth-genedlaetholgar. Er enghraifft, yn eu plith roedd llyfr o'r enw Germanomanie gan yr awdur Iddewig Saul Ascher, a nododd symudiad gymnasteg Jahn yn ei feirniadaeth o ragfarn wrth-dramor a gwrth-Iddewig (roedd Iddewon yr Almaen bron yn unfrydol o blaid y Ffrangeg). Hwn oedd y llyfr modern cyntaf yn llosgi yn yr Almaen ac ysbrydolodd losgiadau llyfrau'r Sosialwyr Cenedlaethol.
Mabwysiadwyd, datblygwyd ac addaswyd nifer o'i gredoau gan y Natsiaid.[6]
Sokol - mudiad Slafaidd
golyguYsbrydolwyd mudiad gymnasteg Sokol i'w sefydlu yn y tiroedd Tsieceg yn 1862. Tra bod Jahn yn genedlaetholwr Almaeneg, mae'r mudiad Sokol, a sefydlwyd gan Miroslav Tyrš ym Mhrâg, wedi lledaenu dros sawl gwlad Slafeg yn rhan o'r mudiad genedlaetholaeth y cenhedloedd Slaf fel Tsiecia, Slofacia, Pwyl, Slofenia ag ati.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 https://www.britannica.com/biography/Friedrich-Ludwig-Jahn
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-12-04. Cyrchwyd 2019-12-04.
- ↑ https://www.counter-currents.com/2017/11/friedrich-ludwig-jahn-and-german-nationalism/#_ftn2
- ↑ https://www.oxfordreference.com/view/10.1093/oi/authority.20110803100016379
- ↑ https://www.counter-currents.com/2017/11/friedrich-ludwig-jahn-and-german-nationalism/#_ftn25
- ↑ 6.0 6.1 https://www.counter-currents.com/2017/11/friedrich-ludwig-jahn-and-german-nationalism/
- ↑ Goodbody, John (1982). The Illustrated History of Gymnastics. London: Stanley Paul & Co. ISBN 0-09-143350-9.
Darllen pellach
golygu- Jahn, Friedrich Ludwig (1828). A Treatise on Gymnasticks [sic]. Northampton, Mass.: T. Watson Shepard, Printer – drwy US National Library of Medicine.