Twin Town

ffilm ddrama am y cyfnod glasoed gan Kevin Allen a gyhoeddwyd yn 1997

Ffilm gomedi dywyll o 1997 yw Twin Town. Lleolwyd y ffilm yn Abertawe a defnyddiwyd y ddinas honno ar gyfer y gwaith ffilmio, ynghyd â thref Port Talbot. Cafodd y ffilm ei chyfarwyddo gan Kevin Allen a'r bwriad gwreiddiol oedd enwi'r ffilm yn Hot Dog, oherwydd bod fan cwn poeth yn cael ei weld mewn nifer o olygfeydd y ffilm.

Twin Town
Cyfarwyddwr Kevin Allen
Ysgrifennwr Kevin Allen
Paul Durden
Serennu Rhys Ifans
Llŷr Ifans
Dorien Thomas
Dougray Scott
Huw Ceredig
Dylunio
Amser rhedeg 99 munud
Gwlad Baner Y Deyrnas Unedig Y Deyrnas Unedig
Baner Cymru Cymru
Iaith Saesneg
Cymraeg
(Saesneg) Proffil IMDb

Mae'r ffilm yn serennu Rhys Ifans, Llŷr Evans, Dougray Scott, Keith Allen, Brian Hibbard, Huw Ceredig, Dorien Thomas, Ronnie Williams. Mae Rhys Ifans yn chwarae cymeriad Jeremy Lewis a'i frawd Llŷr Evans yn actio rhan ei frawd, Julian Lewis. Gan ddefnyddio techneg sy'n atgoffa'r gwyliwr o ffilmiau Hitchcock, mae'r cyfarwyddwr i'w weld yn y ffilm fel cyflwynydd ar set deledu, yn y garafan lle mae'r efeilliaid yn byw.

Ym mis Ebrill 2009 fe ddwedodd y cyfarwyddwr ei fod yn bwriadu gwneud 'Twin Town 2'.[1]

Cyfeiriadau golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm gomedi. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.