Twyn-y-Gaer, Llandyfalle

bryngaer o'r Oes Haearn ym Mhowys

Mae Twyn-y-Gaer (hefyd Twyn y Gaer Llanfihangel Fechan[1]) yn fryngaer Geltaidd siâp hirgrwn sy'n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi'i lleoli i'r gorllewin o Landyfalle, tua dwy filltir i'r Gogledd o Aberhonddu, Powys, Cymru; cyfeirnod OS: SO05443526. Mae'n 70 metr o ddiametr o'r Gorllewin i'r Dwyrain, ac yn 75m o'r Gogledd i'r De, gyda chlawdd a ffos o'i chwmpas.[2]

Twyn-y-Gaer
Mathcaer lefal Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
LleoliadHonddu Isaf Edit this on Wikidata
SirPowys Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.0077°N 3.3788°W Edit this on Wikidata
Cod OSSO05443526 Edit this on Wikidata
Hyd75 metr Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethheneb gofrestredig Edit this on Wikidata
Manylion
Dynodwr CadwBR034 Edit this on Wikidata

Mae yma olion sarnfa ac mae'r mynediad i'r gaer i'r dwyrain, gyda bwlch modern yn y gorllewin. Ceir tystiolaeth o ragfur carreg ar yr ochr De-Orllewin.

Lloches i gartrefi a gwersyllfeydd milwrol pwrpas caerau o'r Oes Haearn, ac fe'u codwyd cyn y goresgyniad Rhufeinig; cafodd cryn lawer ohonyn nhw eu hatgyfnerthu a'u defnyddio, yng nghyfnod y Rhufeiniaid; er enghraifft Dinorben yn y Gogledd. Oes aur bryngaerau gwledydd Prydain oedd rhwng 200 CC ac OC 43.

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Hogg, A H A , 1982
  2. archwilio.org.uk; adalwyd 3 Ebrill 2024.