Twyni Mwd Aber Dyfi

Lleolir Twyni Mwd Aber Dyfi rhwng Aberystwyth a Machynlleth yng Ngheredigion, Cymru ac maent yn rhan o Warchodfa Natur Genedlaethol Dyfi.

Twyni Mwd Aber Dyfi
Daearyddiaeth
Defaid a fegir ar gyfer cig oen hallt.

Ecoloeg golygu

Gwarchodir y twyni (neu'r "tywynnau") hyn gan Erthygl 4 o Ddeddf Gwarchod Adar, ac fe'i adnabyddir fel "Ardal Warchodol, Arbennig". Mae'r ardal yn cynnwys yr aber a'r gwlyptir, tywynnau tywod, twyni mwd (mudflats), mawnog, corsydd, sianeli'r afon a nodweddion eraill a'r cwbwl yn agos at bentref bychan Ynyslas.

Perchennog a cheidwad y glannau gorllewinol yw'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar (RSPB). Nytha'r Ŵydd dalcenwen yn yr ardal hon ers blynyddoedd, sef y man mwyaf deheuol y mae'n nythu ynddo.[1] Mae'r aber hefyd yn gynefin i Bibydd y mawn, Haematopus longirostris, Pibydd y tywod, Aderyn drycin Manaw a Môr-wennol.[2] Yma hefyd gellir canfod: Llysiau’r Gingroen neu "Creulys Iago" (Senecio jacobeae); Tafod y Bytheaid (Cynoglossum officinale) a’r Helyglys Hardd (Chamerion angustifolium). Mae Llys Iago'n nodweddiadol iawn o’r safle ar Ynyslas, ac i'w canfod gan nad ydynt at ddant y cwningod sydd mor bwysig ar Ynyslas.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. "Joint Nature Conservation Committee (JNCC) 10 April 2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-03-04. Cyrchwyd 2013-12-23.
  2. "BBC Cymru: Aber y Dyfi; 1Ebrill 2008". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-23. Cyrchwyd 2013-12-23.
  3. Y Naturiaethwr Archifwyd 2012-04-10 yn y Peiriant Wayback.; Gorffennaf 2006; adalwyd 24 Rhagfyr 2013

Dolenni allanol golygu