Pibydd y tywod
Pibydd y tywod | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Charadriiformes |
Teulu: | Scolopacidae |
Genws: | Calidris |
Rhywogaeth: | C. alba |
Enw deuenwol | |
Calidris alba (Pallas, 1764) |
Mae Pibydd y tywod (Calidris alba) yn un o aelodau llai teulu'r rhydyddion.
Mae Pibydd y tywod yn nythu yn yr Arctig, yng ngogledd Ewrop, gogledd Asia a rhan ogleddol Gogledd America. Mae'n aderyn mudol, ac yn y gaeaf maent yn symud tua'r de, cyn belled a De America, Affrica ac Awstralia. Yn y gaeaf maent yn hel at ei gilydd yn heidiau, fel rheol ar draethau tywodlyd, yn wahanol i'r rhan fwyaf o rydyddion eraill, sy'n hoffi mwd.
O ran maint mae Pibydd y tywod yn debyg i Bibydd y mawn ond yn y gaeaf mae yn llawer goleuach ei liw na Phibydd y Mawn, gyda darn du ar yr ysgwydd, a gyda pig cryfach. Wrth hedfan mae'n dangos llinell wen amlwg iawn ar yr adenydd. Mae'n rhedeg ar hyd y traeth i ddal ei fwyd yn hytrach na gwthio ei big i'r mwd fel y rhan fwyaf o rydyddion. Ei brif fwyd yn y gaeaf yw crancod bychain ac unrhyw anifail bychan arall sydd i'w gael ar y traeth, tra maent yn bwyta llawer o bryfed yn ystod y tymor nythu.
Mae'n nythu ar lawr yn yr Arctig, gan ddodwy 3 neu 4 wy. Yn ystod y tymor nythu mae'r wyneb a'r gwddf yn goch.
Mae'n aderyn gweddol gyffredin ar y traethau yng Nghymru yn y gaeaf, y gwanwyn a'r hydref.