Y Tynwald (Manaweg: Tinvaal) yw senedd ddeddfwriaethol Ynys Manaw (Ellan Vannin). Mae'n cynnwys dwy gangen sy'n eistedd ar y cyd neu'n annibynnol, sef y Kiare as Feed ("pedwar ar hugain", Tŷ'r Agoriadau) etholedig ac Yn Choonseil Slattyssagh (Y Cyngor Deddfwriaethol). Dywedir mai'r Tynwald yw'r corff deddfwriaethol hynaf yn y byd sydd wedi bodoli'n ddidor, am iddo gael ei sefydlu yn y flwyddyn 979.

Tynwald
Delwedd:Tynwald tingvollen.jpg, Old Tynwald site Isle of Man. . - geograph.org.uk - 31920.jpg
MathDwysiambraeth Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladYnys Manaw Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.1508°N 4.4814°W Edit this on Wikidata
Map
Arfau Ynys Manaw

Mae canghennau'r Tynwald yn eistedd ar y cyd ar 'Ddydd Tynwald' (Laa Tinvaal) yn St John's (Balley Keeill Eoin) i ddeddfu, ac ar achlysuron eraill yn y brifddinas Douglas (Doolish) i ddelio ag ariannu a pholisi'r llywodraeth. Fel arall maent yn eistedd yn annibynnol, gyda Tŷ'r Agoriadau yn ystyried cynigion deddfwriaeth y llywodraeth a'r Cyngor yn gweithredu fel siambr adolygol.

Daw'r enw Tynwald o'r Gwyddeleg Tine Bhál "Tan Balor".

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Manaw. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato