Tylluan wen
- Am y ffilm o'r un enw, gweler Tylluan Wen (ffilm)
Tylluan Wen | |
---|---|
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Strigiformes |
Teulu: | Tytonidae |
Genws: | Tyto |
Rhywogaeth: | T. alba |
Enw deuenwol | |
Tyto alba (Scopoli, 1769) |
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1a/Schleiereule-Tyto_alba-World.png/200px-Schleiereule-Tyto_alba-World.png)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/ba/Tyto_alba_guttata_MHNT.ZOO.2010.11.154.8.jpg/220px-Tyto_alba_guttata_MHNT.ZOO.2010.11.154.8.jpg)
Mae'r Dylluan Wen (Tyto alba) yn aelod o deulu'r Tytonidae, yn wahanol i'r rhan fwyaf o ddylluanod, sydd yn y teulu Strigidae. Gyda'i ddosbarthiad byd-eang bron, heblaw gogledd Asia a'r Antarctig, mae'n aderyn adnabyddus iawn, er nad yw'n arbennig o gyffredin yn y rhan fwyaf o wledydd.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/91/Chouette_cr%C3%A2ne_%282%29.jpg/200px-Chouette_cr%C3%A2ne_%282%29.jpg)
Caiff ei henw o'r ffaith ei bod yn edrych yn wyn, gyda bol gwyn at yr is-rywogaeth Ewropeaidd T. a. alba, tra mae'r cefn yn liw llwyd-frown golau. Lliw mwy oren sydd ar fol yr is-rywogaeth yn Asia, T. a. guttata Mae'n 33–39 cm o hyd a 80–95 cm ar draws yr adenydd. Mae'r alwad yn sgrech annaearol - y Dylluan Frech sy'n galw Twhit - tyhw, nid y Dylluan Wen.
Y prif fwyd yw mamaliaid bychain, er enghraifft llygod, sy'n cael eu hela ar dir agored, yn y nos fel rheol. Bwyteir llyffantod a phryfed hefyd. Maent yn aml yn nythu mewn adeiladau ffermydd megis hen feudai, ac oherwydd eu bod yn bwyta llygod a llygod mawr mae ffermwyr fel rheol yn eu croesawu.