Y Tywysog Harri, Dug Sussex

ail fab Siarl III, brenin y Deyrnas Unedig
(Ailgyfeiriad o Tywysog Harri)

Ail fab y Tywysog Siarl a Diana yw Henry Charles Albert David Mountbatten-Windsor neu'r Tywysog Harri, Dug Sussex (ganwyd 15 Medi 1984). Mae'n frawd i'r Tywysog William. Priododd yr actores Meghan Markle ym Mai 2018.[1]

Y Tywysog Harri
Dug Sussex
Harri yn 2020
GanwydY Tywysog Harri o Gymru
(1984-09-15) 15 Medi 1984 (40 oed)
Ysbyty Sant Mair, Llundain, Lloegr
PriodMeghan Markle (pr. 2018)
Plant
Enw llawn
Henry Charles Albert David
TeuluWindsor
TadSiarl III
MamDiana Spencer

Fe'i addysgwyd mewn ysgolion yn Lloegr a treuliodd gyfnodau o'i flwyddyn bwlch yn Awstralia a Lesotho. Yna cafodd hyfforddiant swyddog yn Academi Filwrol Frenhinol Sandhurst. Fe'i benodwyd yn gornet (sef ail is-gapten) yn y Blues a Royals, gan wasanaethau dros dro gyda'i frawd Y Tywysog William, a cwblhaodd ei hyfforddiant fel arweinydd milwyr. Yn 2007-2008 gwasanaethodd am dros ddeg wythnos yn Helmand, Affganistan, ond tynnodd allan ar ôl i gylchgrawn Awstralaidd ddatgelu ei bresenoldeb yna. Dychweloddi Affganistan am gyfnod o 20 wythnos yn 2012-13 gyda Corfflu Awyr y Fyddin. Gadawodd y fyddin yn Mehefin 2015.

Helyntion

golygu

Ffrae'r wisg ffansi Natsïaidd

golygu
 
Tudalen flaen The Sun gyda llun o'r tywysog yn y parti

Yn Ionawr 2005, mewn parti gwisg ffansi gyda'r thema "Trefedigaethwyr a Brodorion", gwisgodd y Tywysog Harri band braich swastika ac iwnifform Natsïaidd, gan godi ymateb beirniadol iawn[2] ac achosi cryn embaras i'w deulu. Yn ddiweddarach, rhyddhawyd cyhoeddiad ar ei ran yn ymddiheuro am y weithred, ond roedd ei amharodrwydd i ymddiheuro'n bersonol yn cythruddo nifer o grwpiau gwrth-hiliaeth ac unigolion. Cafodd ei feirniadu am wneud sbort ar ben mater difrifol a brifo teimladau teuluoedd pobl a ddioddfefasant dan y Natsïaid. Ond bu rhai o gefnogwyr y teulu brenhinol yn barod i esgusodi'r tywysog[3]

Ffrae saethu'r adar prin

golygu

Yn Hydref 2007, wynebodd Harri gyhuddiadau o saethu dau aderyn prin tra yn Sandringham[4]. Gwelodd dau gerddwr a warden gwarchodfa natur cyfagos ddau foda tinwyn yn cael eu "blastio o'r awyr" ar 24 Hydref, ond oherwydd y coed nid oeddynt yn medru gweld pwy yn union a'u saethodd. Mae bodau tinwyn ymhlith yr adar prinaf ym Mhrydain; dim ond 20 sy'n byw yn Lloegr felly collwyd 10% o stoc bridio'r adar yn y wlad honno. Dywedodd llefarydd ar ran yr RSPB fod yr honiadau gan lygad-dystion mai Harri a'i ffrind a fu'n gyfrifol am y saethu yn "gredadwy". Fodd bynnag, penderfynodd Gwasanaeth Erlyn y Goron beidio â ffurfio cyhuddiadau, penderfyniad sydd wedi cythruddo naturiaethwyr.

Cyfeiriadau

golygu