Y cyntaf o don o grwpiau Cymraeg Caerdydd yng nghanol yr 1980au oedd U Thant a'r Cenhedloedd Unedig. Sefydlwyd y grŵp gan ddisgyblion Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Yr aelodau gwreiddiol oedd Rhys Boore (llais), Iwan Pryce (gitar), Steve Williams (gitar/bass) a Stephen "frog" Jenkins (drymiau). Roedd Sion Lewis (bass) yn aelod o'r band am yr wythnos gyntaf, yn chwarae gig gyda'r band yn Ysgol Glantaf. Roedd eu hanner yn rhan o'r flwyddyn gyntaf i fynychu ysgol uwchradd Gymraeg cyntaf Caerdydd. Enwyd y grŵp ar ôl cyn-Ysgrifennydd Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig, U Thant, mae'n siŵr, gan fod y Cenhedloedd Unedig yn rhan o gwrs Hanes Lefel O y cyfnod.

U Thant c. 1986.

Chwaraent gerddoriaeth pyncaidd a bywiog ac roedd eu perfformiadau byw gyda'u canwr blaen carismataidd, Rhys Pys (Rhys Boore) yn denu dilyniant brwd o fewn Caerdydd a thu hwnt. Esgorodd eu llwyddiant hefyd ar ymateb chwyrn yn eu herbyn yn enwedig y tu allan i Gaerdydd. Un ffenomenon bwysig o gylch U Thant oedd 'Dynion y Nos' - grwpis a fyddai'n dynwared y grŵp drwy wisgo jîns glas wedi eu torri uwch y pen-glun, sgidiau suede du, crys-t U Thant ac, o tua 1985 ymlaen, steil gwallt y 'flat-top'.

Roedd llwyddiant U Thant yn sylfaen ac yn ysbrydoliaeth i sefydlu nifer o grwpiau eraill o Gaerdydd o'r un cyfnod gan gynnwys, Edrych am Jiwlia, Y Crumblowers, Hanner Pei, Bili Clin a Cofion Ralgex, a mae Steve Williams hyd heddiw yn The Fugitives, a wedi chwarae mewn bandiau seicadelic adnabyddus Duck Muzzle a Contorted Hazel.

Disgograffi golygu