Edrych am Jiwlia
Grŵp pop Cymraeg o Gaerdydd oedd Edrych am Jiwlia a ffurfiwyd yn 1985.[angen ffynhonnell]
Edrych am Jiwlia | |
---|---|
(chwith-dde:) Siôn Lewis, Huw Bunford, Siôn Jobbins, Rhisiart Williams | |
Gwybodaeth gefndirol | |
Man geni | ![]() |
Blynyddoedd | 1985–1989 |
Bu ymddangosiadau ar raglen ieuenctid S4C Stîd a dau fideo ar Fideo 9 - Myfyrio a Dau Berson.
Wedi chwalu'r grwp yn 1989 aeth Siôn Lewis a Huw Bunford ymlaen i ffurfio grŵp Y Gwefrau gyda Rebecca Evans a Gwenllian Lewis (chwaer Siôn yn canu), Pippa Mahoney ar y gitâr ac Owen Stickler ar y drymiau (a drymiwr grwp Y Crumblowers, grŵp arall o Gaerdydd ).
Bu Siôn Lewis yna'n aelod o grŵp Profiad Rhys Lloyd ddaeth maes o law yn Y Profiad a chyfrannodd i nifer o grwpiau pop Cymraeg eraill yn cynnwys Tynal Tywyll.
Aeth Huw Bunford yn ei flaen i fod yn un o aelodau Super Furry Animals.
DisgyddiaethGolygu
- "Chi yw'r ateb i Bopeth" ar sengl aml-gyfrannog rhaglen Bilidowcar, Popdri (1985)
- Gwilym Roberts (Caset, 1987)
- "Cydwybod Euog" ar gaset aml-gyfrannog Gwyrdd, Mudiad Ieuenctid Plaid Cymru (1987)
- "Myfyrio" ar EP amlgyfrannog Pop Positif (1988)
- Dau Berson - Sengl 7" Ankst (ANKST 06, 1989)