Udgorn Seion
Roedd Udgorn Seion[1] yn gylchgrawn crefyddol Cymraeg ei iaith, a oedd yn gwasanaethu Eglwys Iesu Grist Sant y Dyddiau Diwethaf. Roedd y cylchgrawn yn bennaf yn cynnwys erthyglau crefyddol a oedd yn amddiffyn credoau'r Mormoniaid, erthyglau yn annog ymfudo i Salt Lake City ac adroddiadau ar weithgareddau'r Mormoniaid yng Nghymru. Cyhoeddwyd y cylchgrawn rhwng 1849 a 1861, a rhai o'r golygyddion oedd John Davis, y cenhadwr Mormonaidd Daniel Jones[2] (1811-1861), George Quayle Cannon (1827-1901) a William Ajax (1832-1899).
Enghraifft o'r canlynol | cylchgrawn, cylchgrawn |
---|---|
Rhan o | Cylchgronau Cymru Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 1849 |
Dechrau/Sefydlu | 1849 |
Lleoliad cyhoeddi | Merthyr Tudful |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus |
Roedd y cylchgrawn Prophwyd y Jubili a gyhoeddwyd rhwng y blynyddoedd 1846 a 1848 yn ragflaenydd i Udgorn Seion.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Udgorn Seion ar wefan Cylchgronau Cymru". Cyrchwyd 26 Medi 2017.
- ↑ "Daniel Jones (1811-1861) yn y Bywgraffiadur Cymreig". Y Bywgraffiadur Cymreig. Cyrchwyd 26 Medi 2017.