Ulyanovsk

(Ailgyfeiriad o Ul'yanovsk)

Dinas ar Afon Volga yn nwyrain canolbarth Rwsia yw Ulyanovsk (Rwsieg Ульяновск, Chuvasheg Chemper) (Sinbirsk hyd 1780, Simbirsk o 1780 tan 1924). Mae'n brifddinas i Oblast Ulyanovsk. Yn 2005 roedd ganddi boblogaeth o tua 623,100 o drigolion. Lleolir 893 km i'r dwyrain o Moskva.

Ul'yanovsk
Mathtref/dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlVladimir Lenin Edit this on Wikidata
Poblogaeth624,518 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1648 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethQ111016890 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+04:00, UTC+03:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Krefeld, Macon, Georgia, Gomel, Wuhu, Minsk Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirOblast Ulyanovsk Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd316.9 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr150 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Volga, Afon Sviyaga Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.32°N 48.37°E Edit this on Wikidata
Cod post432000–432999 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethQ111016890 Edit this on Wikidata
Map

Hanes golygu

Fe'i sefydlwyd fel caer ar Fryn Simbirsk ar ffiniau dwyreiniol Ymerodraeth Rwsia yn 1648 er mwyn amddiffyn yr ymerodraeth rhag ymosodiadau gan lwythi crwydrol. Mae'r enw Simbirsk yn golygu 'dinas y saith gwynt'. Ugain mlynedd ar ôl ei sefydliad, llwyddodd i wrthsefyll gwarchae gan luoedd Stenka Razin, arweinydd gwrthryfel y Cosaciaid. Yn raddol daeth yn ganolfan ranbarthol o bwys, gan gael ei ddyrchafu'n ddinas ym 1796. Adeiladwyd Eglwys Gadeiriol y Drindod Sanctaidd mewn arddull neo-glasurol rhwng 1827 a 1841. Cafodd rhan fwya'r ddinas ei difetha mewn tân trychinebus ym 1864.

Yn ystod yr 20g, datblygodd Ul'yanovsk fel canolfan ddiwydiannol. Cynhyrchir ceir ac awyrennau mewn ffatrïoedd UAZ ac Aviastar. Adeiladwyd pont bwysig dros y Volga rhwng 1912 a 1916, yr unig un am bellter o ryw 400 km rhwng Kazan' a Tol'yatti. Mae ail bont yn cael ei hadeiladu ers y 1980au.

Ganwyd y gwleidyddion Vladimir Lenin ac Alexander Kerensky yn y ddinas, ynghŷd â'r awdur Rwsieg clasurol Ivan Goncharov. Ailenwyd fel Ulyanovsk ar ôl enw bedydd Vladimir Lenin (Ulyanov) ychydig o ddyddiau ar ôl ei farwolaeth ym 1924. Ers cwymp y gyfundrefn Gomiwnyddol, mae trigolion y ddinas wedi gwrthwynebu mynd yn ôl i'r enw gwreiddiol, yn wahanol i bron pob dinas arall a gafodd ei hailenwi yn ystod cyfnod Comiwnyddiaeth.

Gefeilldref golygu

Ei efeilldref yw Krefeld (Almaen).