Kazan’
Prifddinas Gweriniaeth Tatarstan a dinas wythfed fwyaf Rwsia o ran poblogaeth yw Kazan' (Rwsieg Казань / Kazan', Tatareg Казан neu Qazan, Mari Osun). Lleolir yn nwyrain Rwsia Ewropeaidd, ar aber Afon Volga ac Afon Kazanka, 800 km i'r dwyrain o Foscfa.
Math | y ddinas fwyaf, y ddinas fwyaf, city of republic significance, tref/dinas, dinas fawr |
---|---|
Poblogaeth | 1,259,173 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Ilsur Metshin |
Cylchfa amser | UTC+03:00 |
Gefeilldref/i | Jūrmala, Antalya, Jeddah, Istanbul, Braunschweig, Bryan, College Station, Hyderabad, Urbino, Astana, Astrakhan, Krasnoyarsk, Chelyabinsk, Verona |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Rwseg, Tatareg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Tatarstan |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 425.3 km² |
Uwch y môr | 60 metr |
Gerllaw | Afon Volga, Afon Kazanka |
Yn ffinio gyda | Zelenodolsky District, Vysokogorsky District, Pestrechinsky District, Laishevsky District, Verkhneuslonsky District |
Cyfesurynnau | 55.7908°N 49.1144°E |
Cod post | 420000–420999 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Q21639995 |
Pennaeth y Llywodraeth | Ilsur Metshin |
Crefydd/Enwad | Swnni, Eglwys Uniongred Rwsia |
Hanes
golyguTybir i'r ddinas gael ei sefydlu ym 1005 gan Fwlgariaid y Volga. Er nad oes tystiolaeth eglur am ddyddiad ei sefydlu, mae tystiolaeth archaeolegol yn awgrymu i safle kremlin y ddinas gael ei anheddu yn yr 11g. Mae'r cyfeiriad cyntaf at y ddinas mewn brut yn dyddio i 1177. Fel rhan o'r Llu Euraidd, daeth Kazan' yn ganolfan fasnachol a gwleidyddol o bwys. Ar ôl cwymp y Llu Euraidd, roedd yn brifddinas i Khanaeth Kazan a ffurfiwyd ym 1437 neu 1438. Ar ôl brwydr i gadw ei hannibyniaeth yn erbyn Rwsia, cipiwyd gan y Rwsiaid o dan Ifan IV ym 1552. Cafodd ei difrodi'n ddifrifol yn ystod Gwrthryfel Pugachev ym 1774. Yn y 14g daeth yn ganolfan addysg gyda sefydliad Prifysgol Wladwriaethol Kazan ym 1804. Bu Lenin yn astudio yn y brifysgol yn y 1880au a'r 1890au. Ers cwymp yr Undeb Sofietaidd, mae'r ddinas wedi diwygio: agorwyd system metro yn Awst 2005, a chwplhawyd mosg mwyaf Rwsia Qolsharif o fewn kremlin Kazan yn yr un flwyddyn.
Poblogaeth
golyguMae poblogaeth y ddinas yn gymysgedd bron cyfartal o Rwsiaid a Tatariaid.
Pensaernïaeth
golyguYchwanegwyd Kremlin Kazan' at restr Safleodd Treftadaeth y Byd UNESCO yn 2000. Mae Mosg Qolsharif yn ei dominyddu.
Addysg
golyguMae Prifysgol Wladwriaethol Kazan ymysg prifysgolion hynaf Rwsia. Llofnodwyd ei siarter sefydlu gan Tsar Alexander I ar 5 / 17 Tachwedd 1804. Roedd y matemategydd Nikolay Lobachevsky yn rheithor o'r brifysgol o 1827 tan 1846, pryd chwaraeodd y brifysgol rôl bwysig mewn datblygiad geometreg ddi-Ewclidaidd. Dafganfuwyd yr elfen rwtheniwm yn Kazan gan Karl Klaus ym 1844, ac roedd y brifysgol yn flaenllaw yn hanes cemeg organig diolch i waith Aleksandr Butlerov, Nikolay Zinin a Vladimir Markovnikov. Gweithiodd yr ieithydd Jan Baudouin de Courtenay, a ddyfeisiodd cysyniad y ffonem, yn Kazan o 1874 tan 1883. Ymysg cyn-fyfyrwyr enwog Prifysgol Kazan y mae'r nofelydd Lev Tolstoy, y gwleidydd a chwyldroadwr Vladimir Lenin a'r bardd Velimir Khlebnikov.