Llenor a newyddiadurwr Wcreinaidd a ymfudodd i Ganada oedd Ulas Samchuk (20 Chwefror 19059 Gorffennaf 1987).[1] Roedd yn un o lenorion trydydd cyfnod llenyddiaeth Wcreineg Canada.

Ulas Samchuk
Ganwyd20 Chwefror 1905 Edit this on Wikidata
Derman Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1987 Edit this on Wikidata
Toronto Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAwstria-Hwngari, Ail Weriniaeth Gwlad Pwyl, First Czechoslovak Republic, yr Almaen Natsïaidd, Canada Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Wrocław Edit this on Wikidata
Galwedigaethnewyddiadurwr, llenor, gohebydd gyda'i farn annibynnol Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolOrganization of Ukrainian Nationalists Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Derman, Ostrih, yn nhalaith Volhynia, Ymerodraeth Rwsia. Astudiodd ym Mhrifysgol Breslau ac yn y Brifysgol Rydd Wcreinaidd ym Mhrâg. Dechreuodd ar ei yrfa lenyddol yn 1926 pan gyhoeddwyd ei straeon byrion yn y cylchgronau Dukhovna besida a Literaturno-naukovyi vistnyk, a chawsant eu hailgyhoeddi'n ddiweddarach yn y casgliad Vidnaidenyi rai (1936). Yn ystod yr Ail Ryfel Byd golygodd y papur newydd Volyn’ (1941–3) yn ninas Rivne, a fe wnaeth ffoi i'r Almaen yn 1944.

Ymhlith ei nofelau realaidd cynnar mae'r triawd Volyn’ (1932, 1935, 1937), y nofelig Kulak (1932), Hory hovoriat’ (1934), Mariia (1934), ac Iunist’ Vasylia Sheremety (1946, 1947). Ymfudodd Samchuk i Ganada yn niwedd y 1940au, ac yno cyhoeddodd rhagor o waith yn yr iaith Wcreineg, gan gynnwys y triawd Ost (1948, 1957, 1982), Choho ne hoït’ vohon’ (1959), Na tverdii zemli (1967), a Slidamy pioneriv: Epos ukraïns’koï Ameryky (1979). Ysgrifennodd hefyd sawl hunangofiant: Piat’ po dvanadtsiatii (1954), Na bilomu koni (1965), Na koni voronomu (1975), a Planeta Di-Pi (1979).

Bu farw yn Toronto yn 82 oed. Sefydlwyd archif a amgueddfa ar gyfer ei waith yn y ddinas honno yn 1988.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Samchuk, Ulas", Internet Encyclopedia of Ukraine. Adalwyd ar 1 Rhagfyr 2018.