Mae'r termau y Byd Mwslemaidd a'r Byd Islamaidd yn cyfeirio at y gymuned fyd-eang o ddilynwyr y grefydd Islam. Mae tua 1.4—1.6 biliwn o Fwslemiaid (rhai sy'n credu yn Islam) yn y byd. Ehangodd y Byd Mwslemaidd dros y blynyddoedd wrth i Islam ledaenu o'r Dwyrain Canol a Gogledd Affrica i weddill yr Affrig, Canolbarth Asia, isgyfandir India ac ynysfor Indonesia. O ganlyniad i allfudo, ceir cymunedau sylweddol o Fwslemiaid yn ninasoedd y Byd Gorllewinol, ond ni ystyrir rhain yn rhan o Fyd Islam.[1] Mae Mwslemiaid yn defnyddio'r enw Dar al-Islam (Arabeg : دار الإسلام ) - yn llythrennol "Tŷ Gostyngiad neu Heddwch" - i gyfeirio at y gwledydd sydd dan lywodraeth Islamaidd.

Y Byd Mwslemaidd
Enghraifft o'r canlynolardal ddiwylliannol Edit this on Wikidata
Mathgwladwriaeth sofran Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Rhan o gyfres ar
Islam


Athrawiaeth

Allah · Undod Duw
Muhammad · Proffwydi Islam

Arferion

Cyffes Ffydd · Gweddïo
Ymprydio · Elusen · Pererindod

Hanes ac Arweinwyr

Ahl al-Bayt · Sahaba
Califfiaid Rashidun · Imamau Shi'a

Testunau a Deddfau

Coran · Sŵra · Sunnah · Hadith
Fiqh · Sharia
Kalam · Tasawwuf (Swffiaeth)

Enwadau

Sunni · Shi'a

Diwylliant a Chymdeithas

Astudiaethau Islamig · Celf
Calendr · Demograffeg
Gwyliau · Mosgiau · Athroniaeth
Gwleidyddiaeth · Gwyddoniaeth · Merched

Islam a chrefyddau eraill

Cristnogaeth · Iddewiaeth

Gweler hefyd

Islamoffobia · Termau Islamig
Islam yng Nghymru

Byd Islam yng ngwleidyddiaeth gyfoes

golygu

Yn ystod yr ugeinfed ganrif, cynyddodd presenoldeb a dylanwad y Byd Gorllewinol ar y Byd Mwslemaidd. Mae union effeithiau'r Gorllewin yn ddadleuol, ond dywedir bod globaleiddio, rhyfeloedd, y defnydd o olew,[2] statws gwledydd Islamaidd fel gwledydd y Trydydd Byd,[2] a ffurfiad Gwladwriaeth Israel[1] i gyd wedi cael effeithiau negyddol ar y Byd Mwslemaidd. Mae'r digwyddiadau yma wedi cyfrannu'n sylweddol at derfysgaeth gan Fwslemiaid ar ddiwedd yr 20g a dechrau'r unfed ganrif ar hugain (er bod agweddau eraill: gweler ffwndamentaliaeth Islamaidd a terfysgaeth eithafol Islamaidd). Hefyd yn y ddwy ganrif hyn, bu allfudiad o Fwslemiaid i wledydd y Gorllewin, sydd wedi cael effeithiau amrywiol ar y berthynas rhyngddynt a Gorllewinwyr.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 Microsoft Encarta Encyclopedia Standard 2005 – tudalen "Islam"
  2. 2.0 2.1 "'Seren' Islam yng Nghaerdydd", BBC, 26 Ebrill, 2004.
  Eginyn erthygl sydd uchod am Islam. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  Eginyn erthygl sydd uchod am ddaearyddiaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.