Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru

Undeb llafur ar gyfer athrawon ysgol a darlithwyr yng Nghymru yw Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC). Mae'n undeb sy'n rhoi pwyslais ar safle'r iaith Gymraeg yn addysg Cymru.

Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru
Math
undeb llafur
Sefydlwyd1940
PencadlysAberystwyth
Gwefanhttp://www.athrawon.com Edit this on Wikidata
Pencadlys cenedlaethol UCAC, Rhiw Penglais, Aberystwyth

Ychydig o hanes yr undeb

Sefydlwyd UCAC yn Nhŷ'r Cymry, Caerdydd ym mis Rhagfyr 1940 pan adawodd unigolion rai o'r undebau athrawon Prydeinig am nad oeddent yn parchu'r Gymraeg. Roedd sylfaenwyr UCAC yn gweld yr angen am undeb athrawon gydag amcanion, polisïau a gwasanaethau a fyddai'n cyfateb i anghenion penodol athrawon oedd yn byw ac yn gweithio yng Nghymru.

UCAC yw'r unig undeb llafur erioed i gael ei sefydlu yng Nghymru. Dros y blynyddoedd ers ei sefydlu mae wedi chwarae rhan bwysig mewn llawer maes, gan gynnwys hanes addysg yng Nghymru, undebaeth lafur yng Nghymru, a hanes cymdeithasol ac ieithyddol Cymru er 1940.

Lleolir y pencadlys yn Aberystwyth, Ceredigion. Mae tua 4,000 o athrawon a darlithwyr yn aelodau o'r undeb, sy'n aelod o TUC Cymru.

Ysgrifennydd Cenedlaethol cyntaf yr undeb oedd Gwyn M. Daniel, Caerdydd, bu'n ymladdwr dygn dros addysg Gymraeg yn y ddinas, ac yn genedlaethol.

Mae cyn-drefnwyr cenedlaethol UCAC yn cynnwys y dramodydd Gareth Miles.

Mae archifau UCAC a Ty’r Cymry, Caerdydd, yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.

Amcanion yr undeb

  • Diogelu a gwella amodau gwaith aelodau
  • Darparu cyngor proffesiynol a chymorth cyfreithiol o'r safon uchaf
  • Hyrwyddo buddiannau aelodau
  • Sicrhau cyfundrefn addysg annibynnol i Gymru
  • Hyrwyddo'r iaith a'r diwylliant Cymraeg

Ysgrifennydd Cyffredinol presennol yr undeb yw Ioan Rhys Jones, y llywydd cenedlaethol am y flwyddyn 2023-24 yw Geraint Phillips a'r is-lywydd yw Ceri Dafydd Evans.

Dolen allanol golygu

  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.