Gwyn M. Daniel

addysgwr ac ymgyrchydd iaith

Roedd Gwyn M. Daniel enw llawn, Gwynfryn Morgan Daniel (1 Awst 1904 - 31 Hydref 1960) yn athro ac ymgyrchydd dros addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ac yn genedlaethol. Ef hefyd oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac Ysgrifennydd cyntaf Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

Gwyn M. Daniel
Ganwyd1 Awst 1904 Edit this on Wikidata
Bryn, Castell-nedd Port Talbot Edit this on Wikidata
Bu farw31 Hydref 1960 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethaddysgwr, ymgyrchydd iaith, athro, ymgyrchydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Cefndir a Gyrfa golygu

Ganed Gwyn M. Daniel ym mhentre'r Bryn, Port Talbot. Yn dilyn addysg yn Ysgol Pentre Bryn, ac yn Ysgol Sir y Bechgyn, Port Talbot, aeth yn fyfyriwr yng Ngholeg y Brifysgol Aberystwyth lle cyfarfu â'i ddarpar briod Annie Evans o Ystrad, Rhondda. Priododd y ddau ym 1936 a ymgartrefu yng Nghaerdydd lle ganwyd iddynt dair merch, Nia, Ethni a Lona. Tra'n fyfyriwr yn Aberystwyth, bu'n ganolwr yn nhîm rygbi'r Coleg. Yn ddiweddarach, bu ef a'i gyfaill Eic Davies (1909 - 1993) yn bathu termau rygbi, termau a ddaeth yn rhan naturiol o drafod a sylwebaeth rygbi Cymru.

Ym 1932, fe apwyntiwyd ef ac eraill yn athrawon Cymraeg yn ysgolion Caerdydd. Lleolwyd e yn Ysgol y Grange ac Ysgol Herbert Thompson yn Nhrelai.

Diswyddwyd Daniel gan Bwyllgor Addysg Caerdydd oherwydd ei safiad fel Gwrthwynebydd Cydwybodol adeg yr Ail Ryfel Byd. Wedi cyfnod fel clerc cafodd swydd gan Bwyllgor Addysg Morgannwg yn Ysgol Cogan, Penarth. Ym 1952, apwyntiwyd e yn brifathro ysgol gynradd Gwaelod-y-garth.

Gweithgaredd golygu

Rhwng 1934 a 1937 bu Gwyn Daniel yn Llywydd Cylch Ysgolion Elfennol Caerdydd Urdd Gobaith Cymru. Yn 1937 roedd yn Ysgrifennydd Adran Athletau Mabolgampau Cenedlaethol yr Urdd yn Stadiwm Maendy, Caerdydd gyda'r bechgyn buddugol yn teithio i Wembley.

Yn 1939 daeth ef yn Ysgrifennydd Caerdydd y Ddeiseb Genedlaethol dros Ymgyrch Senedd i Gymru.

Ymgyrchu dros Addysg Gymraeg golygu

 
Pencadlys UCAC yn Aberystwyth, Gwyn Daniel oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf yr undeb

Bu i Gwyn Daniel sefydlu Uwch Aelwyd yr Urdd yng Nghaerdydd yn yr 1930au cynnar a fyddai'n cwrdd ar nos Wener.[1]

Yn 1936-37 arweiniodd Gwyn M. Daniel ymgyrch dros sefydlu ysgol cyfrwng Cymraeg yng Nghaerdydd yn Nhŷ'r Cymry. Yn sgil y Rhyfel gwrthwynebiad y Arglwydd Faer Caerdydd a fynnai mai cyfrifoldeb Pwyllgor Addysg y Ddinas oedd sefydlu pob ysgol, aeth Daniel a'i gyd-ymgyrchwyr ati i sefydlu Ysgol Fore Sadwrn cyfrwng Gymraeg a gynhaliwyd yn Nhŷ'r Cymry yn Heol Gordon, y Rhâth, Caerdydd. Ceisiwyd agor ysgol Gymraeg breifat yn 1940 (ar sail debyg i Ysgol Gymraeg Aberystwyth a agorwyd ar hyd yr un llinellau ym mis Medi 1939), ond bu'n rhaid hepgor y bwriad gan bod gymaint o'r plant wedi eu hel o Gaerdydd i'r cefn gwlad fel efaciwis.[2] Cychwynnwyd ar yr ysgol yn 1943 gan barhau i weithredu drwy gydol yr Ail Ryfel Byd nes 1947.[1]

Oherwydd llwyddiant a rhwydwaith sefydlu'r Ysgol Sadwrn, gwelwyd sefydlu Ysgol Gynradd Gymraeg Caerdydd yn 1949. Dyma oedd y drydedd ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng Nghymru (ar ôl Ysgol Gymraeg Aberystwyth ac Ysgol Gymraeg Dewi Sant, Llanelli). Roedd yr ysgol wreiddiol hon mewn dwy ystafell ddosbarth yn Ysgol Saesneg Ninian Park yn ardal Grangetown o Gaerdydd. Maes o law, symudwyd yr ysgol i safle yn ardal Highfields, Llandaf, gan newid yr enw am un daearyddol, Ysgol Gynradd Gymraeg Bryntaf.

Sefydlu UCAC golygu

Gwyn M. Daniel oedd Ysgrifennydd Cyffredinol cyntaf Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac roedd ymhlith y sefydlwyr, yn Nhŷ'r Cymry, ar 6 Rhagfyr 1940.[3][4] Sefydlwyd y mudiad chwyldroadol hwn wedi cyfnod hir o rwydweithio, llythyru a theithio Cymru, gan Daniel ac eraill. Bathwyd yr enw Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru ac nid Undeb Athrawon Cymru gan fod eisoes mudiad o'r enw hwnnw'n bodoli, nad oedd yn undeb. Cytunodd UAC i'r enw.[5]

Mae archifau UCAC a Tŷ’r Cymry, Caerdydd, yng Nghasgliadau Arbennig ac Archifau Llyfrgell Prifysgol Caerdydd.

Gwyn Daniel oedd hefyd cadeirydd cyntaf mudiad Rhieni Dros Addysg Gymraeg.

Personol golygu

Roedd Gwyn Daniel ac Annie yn rhieni i dair merch; Nia (Royles bellach), Ethni (Jones bellach), a Lona (Roberts bellach). Roeddent ymysg disgyblion cyntaf yr Ysgol Fore Sadwrn ac Ysgol Bryntaf. Bu farw Gwyn ar 31 Hydref 1960 ym Mangor, o drawiad ar y galon, tra ar daith dros UCAC. Fel eu tad, bu plant Gwyn Daniel hefyd yn frwd a gweithgar dros y Gymraeg ac addysg Gymraeg. Daeth Ethni yn athrawes ieithoedd a bu hi'n brwydro dros addysg Gymraeg i'w mab, Garmon, oedd ag anghenion arbennig. Bu’n allweddol yn sefydlu uned arbennig yn Ysgol Gynradd Gymraeg Coed-y-Gof a hynny yn wyneb gwrthwynebiad yr awdurdodau. Roedd Ethni hefyd ymhlith athrawon cyntaf Caerdydd y cwrs dysgu Cymraeg, Wlpan, a ysbrydolwyd o Israel, yn yr 1970au.[6]

Gŵr Ethni, a mab yng nghyfraith Gwyn M. Daniel, yw Michael Jones, ymgyrchydd brwd dros addysg Gymraeg yn ardal Caerdydd a chynghorydd cyfreithiol RhAG.[7] Ysgrifennodd Michael Jones lyfr a gyhoeddwyd gan RhAG, Twf addysg Gymraeg yng Nghymru: 2012-2020, gan gloriannu peth o ymdrech Gwyn M. Daniel dros addysg Gymraeg.

Cyhoeddiadau golygu

Gweler hefyd golygu

Dolenni allanol golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Tŷ'r Cymry yn 70 oed". Y Dinesydd. Ebrill 2006.
  2. Jones, Michael (Mehefin 2018). "Cronoleg Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd ers 1940". Y Dinesydd.
  3. "Records of Undeb Cenedlaethol Athrawon Cymru (UCAC), 1937-93". JISC Archives Hub.
  4. "Amdanom ni Amcanion a hanes". Gwefan UCAC.
  5. "Amdanom ni Amcanion a hanes". Gwefan UCAC.
  6. "Cofio athrawes wnaeth "ysbrydoli cannoedd o'i disgyblion i garu Cymru a'r Gymraeg"". Golwg360. 2020-08-11.
  7. "Eight South Wales councils 'lagging behind' in Welsh school provision". Wales Online. 2011-09-29.