Cymru Fydd
Cymru Fydd yw enw mudiad gwladgarol a sefydlwyd gan rai o Gymry Llundain yn 1886. [1]
Enghraifft o'r canlynol | sefydliad gwleidyddol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1886 |
- Gweler hefyd: Datganoli Cymru a Cymru Fydd (gwahaniaethu)
Sefydlu
golyguMewn ymateb i'r galw Gwyddelig am "ymreolaeth cartref", cynigiodd prif weinidog Rhyddfrydol y DU, William Gladstone ddau fesur ar ymreolaeth i Iwerddon yn 1886 a 1893, a fethodd y ddau.[2] Yn 1886, yr un flwyddyn ag y cynigiwyd y mesur cyntaf ar gyfer Iwerddon, sefydlwyd mudiad Cymru Fydd i hybu achos ymreolaeth i Gymru.[3] Dywed ffynhonnell arall y sefydlwyd Cymru Fydd flwyddyn yn hwyarch gan Tom Ellis. Prif amcan y mudiad oedd sefydlu corff deddfu cenedlaethol dros Gymru (ymreolaeth, ond ni awgrymwyd annibyniaeth) ac hefyd er mwyn sicrhau aelodau seneddol a fyddai'n cynrychioli Cymru'n drwyadl. Sefydlwyd hefyd Cyngor Cenedlaethol Cymru i gynrychioli'r blaid Rhyddfrydol yr un flwyddyn. Lawnsiwyd gylchgrawn o'r un enw yn 1888 o Ddolgellau; yn agos i le bu Tom Ellis yn byw.[4]
Roedd Lloyd George yn un o brif arweinwyr Cymru Fydd a oedd yn fudiad a grëwyd gyda'r nod o sefydlu Llywodraeth Gymreig[5] a "hunaniaeth Gymreig gryfach".[6] Sefydlwyd cymdeithasau cyntaf Cymru Fydd yn Lerpwl a Llundain yn 1887 ac yn y gaeaf gaeaf 1886-7, sefydlwyd ffederasiynau rhyddfrydol Gogledd a De Cymru.[7]
Elfen ganolog i raglen y mudiad oedd hunanlywodraeth i Gymru. Yr enw Saesneg ar y mudiad oedd Young Wales, sy'n adlewyrchiad bwriadol o'r mudiad Gwyddelig cyfoes dros hunanlywodraeth i Iwerddon Young Ireland. Y pwnc llosg arall gan y mudiad oedd datgysylltu'r Eglwys Anglicanaidd yng Nghymru. Yn y gyfrol Wales (gol. Keidrych Rhys) dywed gwynfor Evans, (Cyfrol V; Rhif 8/9) Roedd y mudiad yn cynnig dyfodol gwell i bobl, a gafaelodd ym meddyliau'r Cymry; trawsnewidiwyd y mudiad yn 1894, a phersonoliaeth byrlymus Lloyd george oedd yn gyfrifol am y trawsnewid hwnnw.'[1]
Ymhlith aelodau mwyaf blaengar Cymru Fydd yr oedd yr hanesydd J.E. Lloyd (1861 – 1947), y llenor ac addysgwr O.M. Edwards (1858 – 1920) a'r ddau wleidydd Rhyddfrydol Tom Ellis (1859 – 1899)a David Lloyd George (1863 – 1945)[8]. Aelodau gweithgar eraill o'r mudiad oedd Beriah Gwynfe Evans (1848 – 1927) a Michael D. Jones (1822 – 1898).
Chwalu
golyguChwalodd mudiad Cymru Fydd yn 1896 ynghanol ymryson personol a rhwygiadau rhwng cynrychiolwyr Rhyddfrydol megis David Alfred Thomas.[3] [9]
Yng Nghas-gwent, yng ngwanwyn 1896, cafodd ergyd farwol, ond erbyn hynny, roedd llawer o ganghennau wedi eu sefydlu ledled Cymru, ac egin annibyniaeth wedi'i sefydlu ym meddyliau pobl. Roedd gan y mudiad aelod o staff llawn amser a thros 10,000 o aelodau yn ne Cymru. Mae'n debygol iawn, yn ôl William George yn ei gyfrol History of the First National Movement (Gwasg y Brython), mai gwrthdaro rhwng aelodau o'r Rhyddfrydwyr, a llwyddiant a ddaeth yn rhy gynnar, yn rhy fuan oedd y rheswm pam y methodd y mudiad. David Alfred Thomas oedd yr arweinydd yn erbyn annibyniaeth. Bu farw 4 o'r arweinyddion hefyd, tua'r un pryd: Thomas Gee (m. 1898), Tom Ellis (m. 1899), Michael D. Jones (m. 1898) a William Ewart Gladstone (m. 1898) - gwleidydd arall Rhyddfrydol a gredai mewn annibyniaeth i Iwerddon.
Er bod Cymru Fydd wedi dymchwel, roedd ymreolaeth yn dal i fod ar yr agenda, gyda’r rhyddfrydwr Joseph Chamberlain yn cynnig “Home Rule All Round” i holl genhedloedd y Deyrnas Unedig, yn rhannol er mwyn cwrdd â gofynion Iwerddon ond cynnal goruchafiaeth senedd imperialaidd San Steffan. Daeth y syniad hwn a ddisgynnodd o blaid yn y pen draw ar ôl i "de Iwerddon" adael y DU a daeth yn arglwyddiaeth yn 1921 a sefydlwyd gwladwriaeth rydd Iwerddon yn 1922.[10]
Cylchgrawn
golyguRoedd cylchgrawn o'r un enw'n bodoli cyn ffurfio'r mudiad (yn debyg i Gymdeithas yr iaith). Cyhoeddai'r mudiad ddau gylchgrawn, Cymru Fydd yn Gymraeg a Young Wales yn Saesneg. Bu'r mudiad yn ei anterth rhwng 1894–95, ond yna unodd gyda Ffederasiwn Rhyddfrydwyr Gogledd Cymru (ar 18 Ebrill 1895) gan alw'i hun 'Y Ffederaisn Gymreig Genedlaethol'.
-
Beriah Gwynfe Evans (ysgrifennydd y mudiad)
-
Cofeb Tom Ellis, y Bala
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 [https://cylchgronau.llyfrgell.cymru/view/1214989/1216131/107#?cv=107&m=17&h=Cymru+OR+Fydd+OR+OR+OR+&c=0&s=0&manifest=https%3A%2F%2Fdamsssl.llgc.org.uk%2Fiiif%2F2.0%2F1214989%2Fmanifest.json&xywh=-2039%2C-215%2C6592%2C4285 llyfrgell Genedlaethol Cymru; adalwyd 4 Rhagfyr 2020.
- ↑ "Two home rule Bills".
- ↑ 3.0 3.1 The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales, Cardiff: University of Wales Press, 2008
- ↑ Jones, Wyn (1986). Thomas Edward Ellis, 1859-1899 (yn WELENG). Internet Archive. [Cardiff?] : University of Wales Press. t. 32. ISBN 978-0-7083-0927-8.CS1 maint: unrecognized language (link)
- ↑ Jones, J G. (1 January 1990). "Alfred Thomas's National Institution (Wales) Bills of 1891-92". Welsh History Review 15 (1): 218–239. Nodyn:ProQuest.
- ↑ "BBC Wales - History - Themes - Cymru Fydd - Young Wales".
- ↑ """Home Rule all round": Experiments in Regionalising Great Britain, 1886-1914." Political Reform in Britain, 1886 - 1996: Themes, Ideas, Policies. Eds. Jordan, Ulrike; Kaiser, Wolfram. Bochum: Universitätsverlag Dr. N. Brockmeyer. 169 - 192. Arbeitskreis Deutsche England-Forschung 37" (PDF).
- ↑ Gwefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Archifwyd 2020-11-28 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Rhagfyr 2020
- ↑ "Wales | Vol, V no. 8/9 | 1945 | Cylchgronau Cymru – Llyfrgell Genedlaethol Cymru". National Library of Wales. Cyrchwyd 4 December 2020.
- ↑ """Home Rule all round": Experiments in Regionalising Great Britain, 1886-1914." Political Reform in Britain, 1886 - 1996: Themes, Ideas, Policies. Eds. Jordan, Ulrike; Kaiser, Wolfram. Bochum: Universitätsverlag Dr. N. Brockmeyer. 169 - 192. Arbeitskreis Deutsche England-Forschung 37" (PDF).