Undeb Gwyddbwyll Cymru

Ffederasiwn gwyddbwyll cenedlaethol Cymru yw Undeb Gwyddbwyll Cymru. Fe'i sefydlwyd ar 19 Mehefin 1954 drwy uno cymdeithasau yn ne Cymru a Mynwy, ac i ddechrau roedd yn rhan o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (BCF). Sefydlodd yr Undeb Pencampwriaeth Gwyddbwyll Cymru yn 1955.

Undeb Gwyddbwyll Cymru
Enghraifft o'r canlynolcorff llywodraethu chwaraeon Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1954 Edit this on Wikidata
Aelod o'r  canlynolUndeb Gwyddbwyll Ewrop Edit this on Wikidata
PencadlysCymru Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.welshchessunion.org.uk Edit this on Wikidata

Ar 15 Tachwedd 1969 datgysylltodd wrth y BCF a gwneud cais i fod yn aelod llawn ac annibynnol o Ffederasiwn Gwyddbwyll y Byd. Un o arweinwyr yr ymgyrch dros undeb annibynnol i Gymru oedd y Prifardd a'r llenor T. Llew Jones. Derbyniwyd y cais gan FIDE yng Nghyngres Siegen yn 1970 a chafodd Cymru'r cyfle i gystadlu yn ei Olympiad Gwyddbwyll cyntaf yn Skopje 1972, gan ddod yn y 43ain safle o 62.

Nod yr Undeb yw hyrwyddo, trefnu a rheoli gwyddbwyll gystadleuol led led Cymru. Ei slogan yw Ymosodiad Dewr, Amddiffyniad Sicr.

Dolen allanol golygu