Ideoleg
Casgliad neu system o gysyniadau, syniadau a chredoau yw ideoleg[1] neu ddelfrydeg.[2] Bathwyd y term idéologie gan yr athronydd o Ffrancwr Antoine Destutt de Tracy ym 1796 i ddiffinio "gwyddor syniadau".[3] Maent yn gysyniad unigryw i wleidyddiaeth; sonir am ideolegau economaidd, ond mae'r rhain ynghlwm wrth farnau a chredoau gwleidyddol a chymdeithasol, ac nid o reidrwydd damcaniaeth economaidd.
Cyfuniad o syniadaeth ddisgrifiadol a normadol, neu wleidyddeg a gwleidydda, yw ideoleg. Tair nodwedd sylfaenol sydd i'r ideoleg benodol: beirniadaeth ar y drefn sy'n bod, gweledigaeth o gymdeithas y dyfodol, a damcaniaeth o newid gwleidyddol. Amlinellir casgliad o farnau a syniadau, yn aml yn seiliedig ar egwyddorion a gwerthoedd personol a chymdeithasol, gan ysbrydoli gweithredu gwleidyddol er mwyn ennill amcanion i roi'r agenda ddelfrydol ar waith.[4]
Nid yw pawb yn gytûn ar ddiffiniad y gair ideoleg a pha syniadau ac agweddau gwleidyddol sy'n dod o dan y label hon. Er enghraifft, dadleua nifer o geidwadwyr pragmataidd taw tuedd neu agwedd meddwl yw ceidwadaeth, ac nid ideoleg.[4]
Hanes y cysyniad
golyguDaw'r cysyniad modern o ideoleg o waith Karl Marx, Yn ôl Marx, cyfundrefnau ffug o gysyniadau gwleidyddol, cymdeithasol a moesol a ddyfeisir a chynhalir gan y dosbarthau llywodraethol am hunan-les yw ideolegau, e.e. bydd hierarchaethau crefyddol yn cefnogi cyfundrefnau bydd yn cadw'r arweinwyr yn gyfoethog.
Yn yr ugeinfed ganrif datblygodd nodwedd eithafol mewn ideolegau. Mae eu hymlynwyr yn credu bod eu system o theorïau gwleidyddol yn gwbwl anghytûn ag ideolegau eraill – y brif enghraifft o hyn yw comiwnyddiaeth a ffasgiaeth. Tuedda cysyniadau gwleidyddol eraill, megis sosialaeth, democratiaeth, a cheidwadaeth, i fod yn llai gyfyngedig; mae eu dilynwyr yn anghytuno ar rai faterion ond yn cytuno ar eraill.
Datblygodd ideolegau neilltuol yn sgil gwrthdaro penben yr Ail Ryfel Byd a'r Rhyfel Oer. Mudiadau megis ffeministiaeth, amgylcheddaeth, ffwndamentaliaeth grefyddol ac amlddiwylliannaeth sy'n diffinio'r byd ôl-ddiwydiannol, ôl-gomiwnyddol yn oes globaleiddio.[4]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ideoleg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ delfrydeg. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 22 Mai 2016.
- ↑ (Saesneg) Antoine-Louis-Claude, Comte Destutt de Tracy. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 30 Hydref 2016.
- ↑ 4.0 4.1 4.2 Andrew Heywood. Political Ideologies: An Introduction (Palgrave Macmillan, 2003).