Awstiniaid
(Ailgyfeiriad o Urdd yr Awstiniaid)
Urddau mynachaidd yn perthyn i'r Eglwys Gatholig yw'r Awstiniaid. Daw'r enw o Sant Awstin o Hippo (bu farw 430).
Math o gyfrwng | urdd Gatholig |
---|---|
Math | urdd Gatholig |
Yn cynnwys | Augustinian canons, Augustinians, Gilbertine Order, Canons Regular of the Holy Sepulchre, Canonesses Regular of the Holy Sepulchre, Canonesses of St. Augustine of the Mercy of Jesus, Discalced Augustinians |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ar hyn o bryd mae pum prif gangen:
- Canoniaid Rheolaidd; urdd o Ganoniaid sy'n dilyn Rheol Awstin, ac sydd wedi uno mewn Cyfundeb Canoniaid Rheolaidd Sant Awstin. Mae'r Canoniaid Rheolaidd yn mynd yn ôl at dai annibynnol o Ganoniaid o'r 11g. Mae'r Canoniaid Rheolaidd yn byw bywyd cymundol gan gynnwys gweddi ar y cyd ac yn gweithio mewn plwyfi.
- Canoniaid Premonstratensaidd; ffurfiwyd yr Urdd hon gan Norbert o Xanten, y mae'r canoniaid hyn yn byw bywyd mwy caeedig
- Canonesau Rheolaidd; lleianod yn dilyn bywyd caeedig
- Urdd Sant Awstin urdd o Frodyr a ffurfiwyd yn 13eg o dan Prior Cyffredinol
- cynulleidfaoedd crefyddol o fywyd apostolaidd (dynion a merched)
- urddau a chymdeithasau lleyg a sefydlwyd dan enw Sant Awstin
Tai Awstinaidd yng Nghymru
golyguSefydlwyd nifer o dai o Ganoniaid Rheolaidd yn dilyn Rheol Sant Awstin yng Nghymru. Roedd y rhain yn cynnwys Priordy Penmon, Priordy Caerfyrddin a Priordy Llanddewi Nant Hodni. Bu amryw ohonynt yn hen glasau Celtaidd cyn dod yn briordai; er enghraifft yng Ngwynedd daeth amryw o'r hen glasau yn briordai y Canoniaid Awstinaidd Rheolaidd dan nawdd Llywelyn Fawr yn nechrau'r 13g.