Awstin o Hippo

diwinydd Cristnogol cynnar, athronydd a Thad Eglwysig (354-430)

Roedd Awstin o Hippo neu Sant Awstin (Lladin: Aurelius Augustinus; 13 Tachwedd 354 - 28 Awst 430) yn o'r ffigyrau pwysicaf yn natblygiad Cristionogaeth yn y gorllewin. Ystyrir ef fel sant gan yr Eglwys Gatholig ac mae llawer o enwadau Protestannaidd hefyd yn ei ystyried fel un o dadau'r ffydd. Mae barn yr eglwysi Uniongred amdano yn fwy amrywiol.

Awstin o Hippo
Ganwyd13 Tachwedd 354 Edit this on Wikidata
Thagaste Edit this on Wikidata
Bu farw28 Awst 430 Edit this on Wikidata
Hippo Regius Edit this on Wikidata
DinasyddiaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, diwinydd, hunangofiannydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, pregethwr, hanesydd, bardd, llenor, offeiriad Catholig, esgob er anrhydedd, esgob Catholig Edit this on Wikidata
Swyddesgob esgobaethol Edit this on Wikidata
Adnabyddus amCyffesion Awstin Sant, The City of God, On the Trinity Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadEmrys Sant Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl28 Awst, 15 Mehefin Edit this on Wikidata
TadPatricius Edit this on Wikidata
MamMonica o Hippo Edit this on Wikidata
PlantAdeodatus Edit this on Wikidata
"St Awstin a Monica" (1846), gan Ary Scheffer.

Ganed Awstin yn 354 yn Tagaste (Souk Ahras, Algeria heddiw), o deulu Berber. Addysgwyd ef ym Madaurus, ac yna yn Carthago. Roedd ei fam, Monica, yn Gristion a'i dad Patricius yn bagan. Am gyfnod, gadawodd Awstin yr eglwys i ddilyn Manicheaeth, er mawr ofid i'w fam. Ffurfiodd berthynas a merch a barhaodd am bymtheng mlynedd, a ganwyd mab, Adeodatus, iddo. Yn 383 symudodd i Rufain ac yn 384 cafodd swydd athro rhethreg ym Milan.

Perswadiwyd ef gan esgob Milan, Emrys, i ymuno a'r Eglwys Gatholig. Bedyddiwyd ef a'i fab Adeodatus gan Emrys yn ystod Pasg 387, ac yn 388 dychwelodd i Affrica. Ar y ffordd bu farw ei fam yn Ostia, ac yn fuan wedyn ei fab. Creodd fynachlog yn Tagaste, ac yn 391 ordeiniwyd ef yn offeiriad yn Hippo Regius, (yn awr Annaba, yn Algeria). Daeth yn bregethwr enwog, ac yn 396 gwnaed ef yn esgob Hippo. Bu farw yno yn 75 oed yn 430, pan oedd y ddinas dan warchae gan y Fandaliaid.

Ysgrifennodd Awstin nifer fawr o weithiau yn Lladin, yn cynnwys gweithiau yn dadlau yn erbyn Ariadaeth, Donatiaeth, Manicheaeth a Pelagiaeth. Y mwyaf enwog o'i weithiau yw Confessiones (Cyffesiadau), a ystyrir weithiau fel yr hunangofiant modern cyntaf, a De civitate Dei (am ddinas Dduw).