Uwch Gynghrair Gwlad Iorddonen
Cynghrair Proffesiynnol Al-Manaseer yr Iorddonen (Saesneg: AL-Manaseer Jordanian Pro League; (Arabeg: دوري المناصير الأردني للمحترفين) yw Uwch Gynghrair Pêl-droed Gwlad Iorddonen. Dyma'r gynghrair bêl-droed genedlaethol clybiau broffesiynol Gwlad Iorddonen. Mae'r bencampwriaeth yn cynnwys deuddeg tîm sy'n cystadlu mewn system gynghrair, gan chwarae gemau cartref ac oddi cartref. Fe'i gelwir ar hyn o bryd yn yr AL-Manaseer Jordanian Pro League, ar ôl i'r FA lofnodi cytundeb nawdd gyda Grŵp Cwmnïau Ziyad AL-Manaseer.[1].
Hanes a Fformat y gystadleuaeth
golyguCynhaliwyd y cystadleueth Gynghrair gyntaf a'i ennill yn 1944 gan Al-Faisaly, tîm o'r brifddinas, Amman. Yn draddodiadol, mae'r brifddinas wedi eu gor-gynrychioli yn y Gynghrair gan fod hyd at 6 neu 7 tîm proffeisynnol yn y ddinas.
Mae fformat y gystadleuaeth yn dilyn y fformat "rownd-robin" dwbl arferol. Yn ystod tymor, sy'n para o fis Medi i fis Mai, mae pob clwb yn chwarae pob clwb arall ddwywaith - unwaith mewn gêm cartref ac unwaith eto oddi cartref, mewn gyfanswm o 22 o gemau. Mae timau'n derbyn tri phwynt am ennill, un pwynt am gêm gyfartal, a dim pwyntiau am golli.
Mae system o hyrwyddo a disodli yn bodoli rhwng Uwch Gynghrair yr Iorddonen ac Is-adran Cynghrair Iorddonen 1. Mae'r ddau dîm isaf yn yr Uwch Gynghrair yn cael eu disodli i Adran 1 y Gynghrair, a'r ddau dîm gorau o Uwch Gynghrair 1 yn cael eu dyrchafu'n Uwch Gynghrair.
Cymhwyster ar gyfer cystadlaethau Asiaidd
golyguY tîm cyntaf yn Uwch Gynghrair yr Iorddonen yn cystadlu yn y gemau ail gyfle ar gyfer cam grŵp Cynghrair Pencampwyr Asia AFC,[2] a'r tîm ail safle ac enillydd Cwpan CBD Gwlad Iorddonen yn cystadlu yng Nghwpan AFC. Os bydd y tîm cyntaf yn colli tîm yn y gemau ail gyfle yng Nghynghrair y Pencampwyr AFC, bydd y chwaraewyr yn chwarae yng Nghwpan AFC yn lle tîm yr ail safle.
Cwpan AFC Asia
golyguMae'r Iorddonen yn un o wledydd mwyaf llwyddiannus Cwpan AFC gan ennill thri theitl (sef, yr ail wlad mwyaf llwyddiannus ar ôl Kuwait). Tîm clwb Al-Faisaly enillodd dau o'r teitlau yma (2005 a 2006) ac Shabab Al-Ordon enillodd y llall (2007).[3]
Perfformiad fesul Clwb
golyguFfynhonnell:[4]
Tîm | Ennill |
---|---|
Al-Faisaly | 34 |
Al-Wehdat | 16 |
Al-Ahli | 8 |
Al-Jazeera | 3 |
Shabab Al-Ordon | 2 |
Al-Ramtha | 2 |
Jordan | 1 |
Amman | 1 |
Timau Clybiau Treflannau Ffoaduriaid Palesteinaidd
golyguCeir timau sydd wedi eu sefydlu yn y treflannau Palesteinaidd sydd yn nheyrnas Gwlad Iorddonen. Er nad yw'r rhain i gyd yn chwarae yn yr Uwch Gynghrair, maent yn dimau o sylwedd, gydag Al-Wahdat wedi ennill yr Uwch Gynghrair dros 15 o weithiau:
- Al-Wahdat SC
- Al-Baqa'a SC
- Shabab Al-Hussein
- Al-Jalil (Irbid)
Dolenni
golygu- Gwefan y Gymdiethas Bêl-droed
- League Archifwyd 2015-09-24 yn y Peiriant Wayback ar fifa.com
- League ar soccerway.com
- Jordan Premier League - Hailoosport.com Archifwyd 2014-10-14 yn y Peiriant Wayback (Arabeg)
- Jordan Premier League - Hailoosport.com Archifwyd 2014-10-14 yn y Peiriant Wayback
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "the FA signed a sponsorship deal with Ziyad AL-Manaseer Companies Group for 1.500.000 JD".
- ↑ "AFC ExCo okays ACL slots, format". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-12-03. Unknown parameter
|deadurl=
ignored (help) - ↑ "AFC Cup Winners".
- ↑ "Jordan - Number of Wins". RSSSF. Cyrchwyd 2 March 2012.