Valenciennes
Tref a chymuned yn département Nord yng ngogledd Ffrainc yw Valenciennes (Hen Isalmaeneg: Valencijn, Lladin: Valentianae). Saif ar Afon Scheldt. Roedd poblogaeth y commune yn 41,278 yn 1999.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 42,991 |
Pennaeth llywodraeth | Laurent Degallaix |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Sir | arrondissement of Valenciennes |
Gwlad | Ffrainc |
Arwynebedd | 13.82 km² |
Uwch y môr | 42 metr, 17 metr, 56 metr |
Gerllaw | Afon Schelde |
Yn ffinio gyda | Bruay-sur-l'Escaut, Anzin, Aulnoy-lez-Valenciennes, Marly, Petite-Forêt, Saint-Saulve, La Sentinelle, Trith-Saint-Léger |
Cyfesurynnau | 50.3581°N 3.5233°E |
Cod post | 59300 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Valenciennes |
Pennaeth y Llywodraeth | Laurent Degallaix |
Ceir y cyfeiriad cyntaf at Valenciennes mewn dogfen o 693, wedi ei hysgrifennu gan Clovis II. Yng Nghytundeb Verdun, fe'i gwnaed yn ddinas niwtral rhwng Neustria ac Austrasia. Yn 881, cipiwyd y dref gan y Normaniaid. Cipiwyd hi gan fyddin Louis XIV, brenin Ffrainc yn 1677 , a daeth yn rhan o Ffrainc dan Gytundeb Nijmegen y flwyddyn ddilynol.
Pobl enwog o Valenciennes
golygu- Henri VII, ymerawdwr Glân Rhufeinig (c.1275-1313)
- Philippa o Hanawt (1314-1361), gwraig a brenhines Edward III, brenin Lloegr
- Jean Froissart (c.1337–c.1405), croniclydd o'r Canol Oesoedd
- Antoine Watteau (1684-1721), arlunydd
- Charles de Gaulle (1837-1880), bardd Llydaweg ac ysgolhaig Celtaidd