Vanessa Kirby
actores Seisnig
Mae Vanessa Nuala Kirby (ganed 18 Ebrill 1988[1]) yn actores lwyfan, teledu a ffilm Seisnig. Serennodd fel Stella yn addasiad y BBC o Great Expectations yn 2011 a fel Joanna yng nghomedi rhamantus Richard Curtis About Time yn 2013. O 2016 i 2017, chwaraeodd Kirby y Dywysoges Margaret yng nghyfres Netflix Peter Morgan The Crown a fe'i derbyniwyd enwebiad ar gyfer Gwobr BAFTA ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau. Fe'i hadnabyddir yn bennaf am ei gwaith ar y llwyfan; ac yn 2016 dywedodd Variety mai hi "yw'r actores lwyfan rhagorol ei chenhedlaeth."[2]
Vanessa Kirby | |
---|---|
Ganwyd | Vanessa Jane Kirby 18 Ebrill 1988 Wimbledon |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm |
Tad | Roger Kirby |
Ymddangosa Kirby yn Mission: Impossible - Fallout yn 2018.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Who is Vanessa Kirby? Princess Margaret actress in The Crown season two who's been linked to Tom Cruise". The Sun. 2017-12-08. Cyrchwyd 2018-02-22.
- ↑ Trueman, Matt (17 Chwefror 2016). "London Theater Review: 'Uncle Vanya' at the Almeida Theatre". Variety. Cyrchwyd 27 Ionawr 2017.
- ↑ Kroll, Justin (3 Mawrth 2017). "'The Crown' Star Vanessa Kirby Lands Lead Role in 'Mission: Impossible 6' (EXCLUSIVE)". Variety.