Varshini Prakash
Ymgyrchydd yn erbyn newid hinsawdd o'r Unol Daleithiau yw Varshini Prakash a hi yw cyfarwyddwraig gweithredol y Sunrise Movement a gyd-sefydlodd yn 2017.[1] Cafodd ei henwi ar restr 2019 Time 100 Next,[2] ac roedd yn gyd-enillydd Gwobr John Muir Clwb Sierra yn 2019.[3]
Varshini Prakash | |
---|---|
Varshini Prakash yn 2019 | |
Ganwyd | Massachusetts |
Dinasyddiaeth | UDA |
Galwedigaeth | ymgyrchydd hinsawdd |
Cyflogwr |
Magwraeth ac addysg
golyguDaeth Prakash yn ymwybodol gyntaf o newid hinsawdd pan oedd yn 11 oed wrth wylio darllediadau newyddion o tsunami Cefnfor India 2004.[4][5] Wrth dyfu i fyny, rhoddodd ei bryd ar bod yn feddyg.
Aeth Prakash i'r coleg ym Mhrifysgol Massachusetts Amherst lle dechreuodd drefnu materion hinsawdd,[6][7] a daeth yn arweinydd ymgyrch dadfuddsoddi mewn cwmniau tanwydd ffosil. Gweithiodd Prakash hefyd gyda sefydliad cenedlaethol, Fossil Fuel Divestment Student Network. Yn 2017, flwyddyn ar ôl iddi raddio, daeth y brifysgol (UMass Amherst) y brifysgol gyhoeddus fawr gyntaf i ddadfuddsoddi ei buddsoddiadau mewn cwmniau budr.[8]
Gyrfa
golyguYn 2017, lansiodd Prakash y Sunrise Movement, mudiad gwleidyddol Americanaidd dan arweiniad ieuenctid sy'n cefnogi gweithredu gwleidyddol ar newid yn yr hinsawdd, gyda saith cyd-sylfaenydd arall.[6][9]
Yn 2018, daeth yn gyfarwyddwr gweithredol y Sunrise Movement ar ôl i’r grŵp feddiannu swyddfa Llefarydd Tŷ’r Unol Daleithiau Nancy Pelosi yn fynnu ei bod yn sefydlu tasglu cyngresol i fynd i’r afael â newid hinsawdd.[6]
Cafodd ei henwi ar restr 2019 Time 100 Next.[10]
Fel rhan o'i gwaith gyda'r Sunrise Movement, aeth Prakash ati i eiriol dros gynigion fel y Fargen Newydd Werdd.[11] Yn 2020, cymeradwyodd y seneddwr Bernie Sanders yn yr ymgyrch ar gyfer yr arlywyddiaeth.[7] Enwyd Prakash yn gynghorydd i dasglu hinsawdd Joe Biden yn 2020.[12][13][14][15] Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd ymgynghorol Climate Power 2020, grŵp sy'n cynnwys Democratiaid ac ymgyrchwyr sy'n eiriol dros gynyddu'r diddordeb y mae pleidleiswyr America yn ei gymryd mewn gweithredu i atal newid hinsawdd.
Mae Prakash yn gyd-olygydd y llyfr Winning the Green New Deal: Why We Must, How We Can, a ryddhawyd Awst 2020.[16][17][18] Mae hi hefyd yn cyfrannu at The New Possible: Visions of Our World Beyond Crisis.[19][20]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Who Will Save The Planet? Meet The women Rallying For Climate Justice". Marie Claire (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ "TIME 100 Next 2019: Varshini Prakash". Time (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ "Sierra Club Announces 2019 National Award Winners". Sierra Club (yn Saesneg). 2019-09-16. Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ Solis, Marie (November 18, 2019). "How a 26-Year-Old Activist Forced the Democratic Party to Get Serious About Climate Change". Vice.
- ↑ Adabala, Srihita (March 26, 2020). "Meet Varshini Prakash, Leader of The Sunrise Movement". Next Generation Politics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-31.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 Solis, Marie (November 18, 2019). "How a 26-Year-Old Activist Forced the Democratic Party to Get Serious About Climate Change". Vice.Solis, Marie (November 18, 2019). "How a 26-Year-Old Activist Forced the Democratic Party to Get Serious About Climate Change". Vice.
- ↑ 7.0 7.1 Adabala, Srihita (March 26, 2020). "Meet Varshini Prakash, Leader of The Sunrise Movement". Next Generation Politics. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-10-31.Adabala, Srihita (March 26, 2020). "Meet Varshini Prakash, Leader of The Sunrise Movement" Archifwyd 2020-10-31 yn y Peiriant Wayback. Next Generation Politics.
- ↑ Elton, Catherine. "Varshini Prakash Is Trying to Save Boston From Climate Change". Boston Magazine. https://www.bostonmagazine.com/news/2020/03/03/varshini-prakash/.
- ↑ Hyland, Véronique, Naomi Rougeau and Julie Vadnal (June 6, 2019). "27 Women Leading the Charge to Protect Our Environment". Elle Magazine.
- ↑ Inslee, Jay (2019). "Varshini Prakash Is on the 2019 TIME 100 Next List". Time.
- ↑ Inslee, Jay (2019). "Varshini Prakash Is on the 2019 TIME 100 Next List". Time.Inslee, Jay (2019). "Varshini Prakash Is on the 2019 TIME 100 Next List". Time.
- ↑ Specter, Emma (October 26, 2020). "Why 2020 Is a Climate Election". Vogue.
- ↑ Rathi, Akshat (September 15, 2020). "The Activist Trying to Bend the U.S. Congress Toward Climate". Bloomberg.
- ↑ Teirstein, Zoya (May 20, 2020). "How Climate Leftists and Moderates Are Working Together to Beat Trump". Rolling Stone.
- ↑ Calma, Justine (May 14, 2020). "How the climate movement is trying to fix Joe Biden". The Verge.
- ↑ Ottesen, KK (September 22, 2020). "'Adults are asleep at the wheel' in climate crisis, says co-founder of youth-led activist group". Washington Post.
- ↑ "Nonfiction Book Review: Winning the Green New Deal: Why We Must, How We Can by Edited by Varshini Prakash and Guido Girgenti. Simon & Schuster, $18 trade paper (256p) ISBN 978-1-982142-43-8". Publishers Weekly (yn Saesneg). June 2, 2020. Cyrchwyd 2021-04-23.
- ↑ Stephenson, Wen (12 Hydref 2020). "The Hardest Thing About the Green New Deal". The Nation. Cyrchwyd 23 April 2021.
- ↑ The new possible : visions of our world beyond crisis. Philip Clayton, Kelli M. Archie, Jonah Sachs, Evan Steiner, Kim Stanley Robinson. Eugene, Oregon. 2021. ISBN 978-1-7252-8583-5. OCLC 1236337736.CS1 maint: others (link)
- ↑ "Varshini Prakash on Redefining What's Possible". Sierra Club (yn Saesneg). 2020-12-14. Cyrchwyd 2021-04-23.