Ffordd Rufeinig yn cysylltu dinas Rhufain ag arfordir dwyreiniol yr Eidal yw'r Via Salaria ("Ffordd yr Halen"). Gyda'r Via Latina, y Via Flaminia a'r Via Appia, roedd yn un o'r ffyrdd pwysicaf oedd yn cysylltu'r brifddinas a'r gweddill o'r ymerodraeth.

Via Salaria
Mathffordd Rufeinig, adeilad Rhufeinig Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwladyr Eidal Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.9°N 12.48°E Edit this on Wikidata
Map

Dyddia'r ffordd o'r cyfnod cyn y Rhufeiniaid. Roedd y Sabiniaid yn ei defnyddio i daglglu halen ar yr arfordir ger Ostia. Cred rhai ysgolheigion fod sefyllfa dinas Rhufain ar y ffordd yma, a'r pwysigrwydd strategol oedd yn dilyn o hynny, yn ffactor bwysig yn nhŵf grym y ddinas.

Roedd y Via Salaria yn gadael Rhufain trwy'r Porta Salaria ym Mur Aurelian. Oddi yni roedd yn arwain i Reate ac ar hyd dyffryn y Velino i groesi'r Apenninau ac yna dilyn dyffryn Tronto i Asculum. O Asculum, roedd yn mynd ymlaen i'r arfordir yn Castrum Truentinum ger aber y Tronto.

Y via Salaria (mewn llwyd)