Vicente López y Planes
Bardd Sbaeneg a gwleidydd o'r Ariannin oedd Vicente López y Planes (3 Mai 1785 – 10 Hydref 1856).
Vicente López y Planes | |
---|---|
Ganwyd | 3 Mai 1785 Buenos Aires |
Bu farw | 10 Hydref 1856 Buenos Aires |
Dinasyddiaeth | yr Ariannin |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyfreithiwr, llenor, gwleidydd |
Swydd | Governor of Buenos Aires Province, Arlywydd yr Ariannin |
Plaid Wleidyddol | Unitarian Party |
Priod | Lucía Petrona Riera Merlo |
Plant | Vicente Fidel López |
Brwydrodd yn erbyn y Prydeinwyr yn ystod goresgyniadau Rhaglawiaeth y Río de la Plata yn 1806 a 1807. Gwasanaethodd yn arlywydd dros dro Taleithiau Unedig y Río de la Plata yn sgil ymddiswyddo Bernardino Rivadavia, o 7 Gorffennaf 1827 i 17 Awst 1827, a chaiff ei gyfri felly yn ail Arlywydd yr Ariannin.
Wedi iddo ildio'r arlywyddiaeth i Justo José de Urquiza, gwasanaethodd yn weinidog dan Manuel Dorrego, Llywodraethwr Talaith Buenos Aires, ac yn gyfreithiwr dan Juan Manuel de Rosas. Wedi cwymp Rosas, López y Planes oedd Llywodraethwr Talaith Buenos Aires o 13 Chwefror 1852 i 26 Gorffennaf 1852.
O ran ei farddoniaeth, fe'i cofir am Triunfo argentino, baled sy'n dathlu buddugoliaeth yr Archentwyr yn erbyn y Prydeinwyr, ac am ysgrifennu geiriau Himno Nacional Argentino (1813), yr anthem genedlaethol.
Roedd yn dad i'r llenor Vicente Fidel López.