Victor Johnson
Seiclwr trac Seisnig oedd Victor Louis Johnson (10 Mai 1883, Aston Manor, Swydd Warwick[1][2] – 23 Mehefin 1951, Sutton Coldfield[3]), a gystadlodd yng Ngemau Olympaidd 1908, yno enillodd y fedal aur yn y ras 660 llath. Cystadlodd hefyd yn y gystaleuaeth sbrint gan fynd drwodd i'r rownd derfynol, ond ni wobrwywyd unrhyw fedalau gan i'r gystadleuaeth redeg yn hirach na'r cyfyngiad amser.[4]
Victor Johnson | |
---|---|
Ganwyd | 10 Mai 1883 Aston Manor |
Bu farw | 23 Mehefin 1951 Sutton Coldfield |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Galwedigaeth | seiclwr cystadleuol |
Chwaraeon | |
Gwlad chwaraeon | y Deyrnas Unedig |
Yn ystod Cyfrifiad 1901, roedd Johnson yn byw yn 22 Station Road, Erdington, Swydd Warwick, rhestrwyd ei alwedigaeth fel saer coed, roedd ei dad, John T Johnson, yn wneuthurwr beiciau.[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Cyfrifiad 1901 - 22 Station Road, Erdington, Swydd Warwick, RG 13/2876, Tud. 3 o 41
- ↑ Mynegai Genedigaethau Lloegr a Chymru, Chwarter Ebrill/Mehefin 1883, Victor Louis Johnson, ardal cofrestru Aston, Cyfrol 6d, Tud. 435
- ↑ Mynegai Marwolaethau Lloegr a Chymru, Chwarter Ebrill/Mehefin 1951, Victor L. Johnson, 68 oed, ardal cofrestru Sutton Coldfield, Cyfrol 9c, Tud. 923
- ↑ Proffil ar databaseolympics.com