Cyfrifiad y Deyrnas Unedig 1901
Cynhaliwyd cyfrifiad y Deyrnas Unedig 1901 ar 31 Mawrth 1901 yn Lloegr a Chymru. Mae'n cynnwys cofnodion o 32 miliwn o bobl a 6 miliwn aelwyd, cyhoeddwyd y cyfrifiad hwn ar-lein yn 2003 ar wefan a gaiff ei redeg gan The National Archive; mae'n rhaid i ddefnyddwyr dalu er mwyn cyrchu'r wybodaeth. Mae'n cynnwys Lloegr a Chymru gyfan heblaw rhannau o Deal yng Nghaint.[1] Mae ychydig o'r cofnodion wedi cael eu niweidio ond mae'r wybodaeth yn gyflawn mwy neu lai.
Enghraifft o'r canlynol | Cyfrifiadau yn y Deyrnas Unedig |
---|---|
Dyddiad | 31 Mawrth 1901 |
Lleoliad | y Deyrnas Unedig |
Gwladwriaeth | Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
Mae'r wybodaeth a gasglwyd gan y cyfrifiad yma bron yr union yr un wybodaeth a gasglwyd yn y cyfrifiadau rhwng 1851 ac 1891 ond gyda mwy o fanylder yn gyffredinol: Cyfeiriad (ffordd, stryd, tref neu bentref, rhif neu enw'r tŷ), os oedd unrhyw un yn byw yn y tŷ ai peidio, enw a chyfenw pob person, perthynas â'r pen teulu, sefyllfa briodasol, oedran, galwedigaeth. Hefyd, os oeddent yn gyflogedig ai peidio, lle'u ganwyd, os oeddent yn ddall, byddar neu'n fud, os oeddent yn ynfytyn, gwirionyn neu'n wallgofddyn. Iaith a siaradwyd, heb gynnwys plant dan 3 (yng Nghymru yn unig). Cafodd criw llongau a trigolion sefydliadau eu cynnwys yn ogystal.