Victoria Wood

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Prestwich yn 1953

Actores, dramodydd, cyfansoddwraig, cantores, cherddores a chyfarwyddwraig Seisnig oedd Victoria Wood CBE (19 Mai 195320 Ebrill 2016).[1] Ysgrifennodd a serennodd Wood mewn sgetshis, dramâu, ffilmiau a chomedïau sefyllfa, ac roedd ei pherfformiadau comedi byw yn cynnwys caneuon roedd wedi ei chyfansoddi a'u chwarae ar y piano. Cyfansoddodd a pherfformiodd Wood arwyddgan ei chyfres gomedi sefyllfa arobryn Dinnerladies ar y BBC. Roedd llawer o'i hiwmor wedi ei seilio ar fywyd bob dydd, ac yn cyfeirio at gyfryngau poblogaidd Prydeinig ac enwau cynnyrch cynhenid Prydeinig. Roedd yn nodedig am arsylwi ar ddiwylliant ac yn dychanu dosbarthiadau cymdeithasol.[2][3]

Victoria Wood
LlaisVictoria wood bbc radio4 desert island discs 23 12 2007.flac Edit this on Wikidata
Ganwyd19 Mai 1953 Edit this on Wikidata
Prestwich Edit this on Wikidata
Bu farw20 Ebrill 2016 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethcyfarwyddwr teledu, sgriptiwr, canwr-gyfansoddwr, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, cynhyrchydd teledu, canwr, actor ffilm, pianydd, cyfarwyddwr ffilm, digrifwr stand-yp Edit this on Wikidata
MamHelen Wood Edit this on Wikidata
PriodGeoffrey Durham Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Actores Orau y British Academy Television Awards, Gwobrau Comedi Prydain Edit this on Wikidata

Dechreuodd ei gyrfa ym 1974 pan enillodd y sioe dalent New Faces.

Bywyd personol

golygu

Priododd y consuriwr Geoffrey Durham yn Mawrth 1980. Fe wahanodd y ddau yn Hydref 2002.[4] Roedd ganddynt ddau o blant, Grace (ganwyd 1988) a Henry (ganwyd 1992). Er fod Wood yn mynnu preifatrwydd ei hun a'i phlant yn chwyrn, hyd yn oed i ddechrau yn gwrthod ryddhau enw ei mab pan ganwyd, ymddangosodd Henry Durham mewn cameo bach yn rhaglen ddogfennol 'sut a wnaed' ar gyfer ei rhaglen Nadolig arbennig yn 2010.

Roedd Wood yn mynychu cyfarfodydd y Crynwyr[5] ac roedd yn lysieuwr, gan ddweud unwaith, "I'm all for killing animals and turning them into handbags. I just don't want to have to eat them."[2]

Bu farw, ar 20 Ebrill 2016, ar ôl brwydr byr gyda chanser.[6] Roedd Wood yn byw yn Highgate, gogledd Llundain.

Teledu

golygu
  • That's Life! (1976)
  • Wood and Walters (1981-1982)
  • Victoria Wood As Seen On TV (1984-1987)
  • An Audience With Victoria Wood (1988)
  • Victoria Wood (1989)
  • Victoria Wood's All Day Breakfast (1992)
  • Dinnerladies (1998-2000)
  • Victoria Wood with All The Trimmings (2000)
  • Pat and Margaret (1994)
  • Housewife, 49 (2006)
  • Victoria's Empire (2007)
  • Ballet Shoes (2007)
  • Victoria Wood's Mid Life Christmas (2009)
  • Eric and Ernie (2011)

Sioe gerdd

golygu
  • Acorn Antiques: The Musical! (2005)
  • That Day We Sang (2011)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Comedian Victoria Wood dies aged 62 (en) , BBC News, 20 Ebrill 2016.
  2. 2.0 2.1 Brandwood, Neil (2002). Victoria Wood – The Biography (arg. 1st). London: Boxtree. ISBN 1-85227-982-6.
  3. Duguid, Mark (July 2003). "Wood, Victoria (1953–2016)". British Film Institute. Cyrchwyd 18 October 2007.
  4. "Comic Wood splits from husband". BBC News. 25 October 2002. Cyrchwyd 13 March 2011.
  5. Bates, Stephen (22 May 2002). "Peace of the action". London: The Guardian. Cyrchwyd 30 December 2011.
  6. Saul, Heather. "Victoria Wood dead: Actress and comedian dies from cancer". Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-21. Cyrchwyd 20 April 2016.