Victoria Woodhull

Ffeminist Americanaidd oedd Victoria Woodhull (23 Medi 1838 - 9 Mehefin 1927) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig am ei gwaith fel brocer stoc, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, golygydd, gwleidydd, a newyddiadurwr. Yn 1872, ymgeisiodd am Arlywyddiaeth yr Unol Daleithiau; gan fod cyfansoddiad UDA yn mynnu oedran o 35 (a hithau'n iau na hynny), mae rhai'n diystyru ei hymdrech.

Victoria Woodhull
GanwydVictoria California Claflin Edit this on Wikidata
23 Medi 1838 Edit this on Wikidata
Homer (Ohio) Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 1927 Edit this on Wikidata
Bredon Edit this on Wikidata
Man preswylUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Unol Daleithiau America Unol Daleithiau America
Galwedigaethbrocer stoc, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, golygydd, gwleidydd, newyddiadurwr, ymgyrchydd dros hawliau merched, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolY Blaid dros Hawliau Cyfartal Edit this on Wikidata
PriodCanning H. Woodhull, James Blood, John Martin Edit this on Wikidata
PlantByron Woodhull, Zula Maud Woodhull Edit this on Wikidata
Gwobr/au'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod Edit this on Wikidata
llofnod

Ganed Victoria Claflin Woodhull yn Homer (Ohio) ar 23 Medi 1838; bu farw yn Bredon, lloegr ac fe'i claddwyd yn Tewkesbury.[1][2][3][4][5]

Bu'n briod i Canning H. Woodhull ac roedd Byron Woodhull a Zula Maud Woodhull yn blant iddi; pan briododd, newidiodd ei henw i Victoria Woodhull Martin. Bu briod deirgwaith.

Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o'r Blaid dros Hawliau Cyfartal.

Brocer golygu

Ynghyd â'i chwaer, Tennessee Claflin, hi oedd y fenyw gyntaf i weithredu cwmni broceriaeth ar Wall Street, gan wneud ffortiwn (am yr ail dro). Roeddent ymhlith y menywod cyntaf i sefydlu papur newydd yn yr Unol Daleithiau, y Woodhull a Claflin's Weekly, a ddaeth allan o'r wasg yn 1870.[6]

Ymgais am yr Arlywyddiaeth golygu

 
Victoria Woodhull yn y 1860au

Roedd Woodhull yn weithgar yn wleidyddol ar ddechrau'r 1870au, pan gafodd ei henwebu fel yr ymgeisydd benywaidd cyntaf ar gyfer llywyddiaeth yr Unol Daleithiau. Yn 1872 roedd yn aelod o'r Blaid Hawliau Cyfartal, gan gefnogi pleidlais menywod a hawliau cyfartal; ei chyfaill-gwaith (running mate) oedd yr arweinydd du, a'r diddymwr, Frederick Douglass. Cafodd archwiliad o'i gweithgareddau pan gafodd ei harestio, gyda'i hail ŵr, Colonel James Blood, a'i chwaer, ar gyhuddiadau o ysgrifennu pethau anweddus, a hynny ychydig ddyddiau cyn yr etholiad. Roedd ei phapur-newydd wedi cyhoeddi adroddiad ar y berthynas honedig rhwng y gweinidog Protestanaidd amlwg Henry Ward Beecher ac Elizabeth Tilton, adroddiad a oedd ychydig yn fwy manwl nag a ystyriwyd yn briodol ar y pryd.[7] Cafwyd cryn ddadlau am sensoriaeth ar y pryd, a rhyddhawyd y tri chwe mis yn ddiweddarach.

Aelodaeth golygu

Bu'n aelod o Gymdeithas Ryngwladol y Gweithwyr am rai blynyddoedd. [8][9]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: 'Hall of Fame' Cendlaethol Menywod (2001)[10] .


Cyfeiriadau golygu

  1. Cyffredinol: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  2. Disgrifiwyd yn: https://www.agspak-buecher.de/G-Notz-Hg-Wegbereiterinnen-Beruehmte-und-zu-Unrecht-vergessene-Frauen-aus-der-Geschichte. dyddiad cyrchiad: 3 Ionawr 2024.
  3. Rhyw: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/.
  4. Dyddiad geni: "Victoria Woodhull". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Victoria Woodhull". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Victoria Woodhull". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. http://www.fembio.org/biographie.php/frau/frauendatenbank?fem_id=18873. dyddiad cyrchiad: 5 Mai 2019. "Victoria C. Woodhull". ffeil awdurdod y BnF.
  5. Dyddiad marw: "Victoria Woodhull". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Victoria Woodhull". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Victoria Woodhull". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
  6. "Before Hillary eyed presidency, there was Ohio's 'Mrs. Satan'.. Toronto Star, 22 Hydref 2016. tud IN4. gan Rick Hampson of USA Today.
  7. "Arrest of Victoria Woodhull, Tennie C. Claflin and Col. Blood. They are Charged with Publishing an Obscene Newspaper". New York Times. 3 Tachwedd 1872. Cyrchwyd 27 mehefin 2008. The agent of the Society for the Suppression of Obscene Literature, yesterday morning, appeared before United States Commissioner Osborn and asked for a warrant for the arrest of Mrs. Victoria C. Woodhull and Miss Tennie ... Check date values in: |accessdate= (help)
  8. Galwedigaeth: https://www.wechanged.ugent.be/wechanged-database/. http://worldhistoryproject.org/1872/5/10/victoria-woodhull-becomes-the-first-woman-to-run-for-president.
  9. Anrhydeddau: https://www.womenofthehall.org/inductee/victoria-woodhull/.
  10. https://www.womenofthehall.org/inductee/victoria-woodhull/.