Frederick Douglass
Diwygiwr cymdeithasol, diddymwr, areithiwr, ysgrifennwr, a gwladweinydd Americaidd oedd Frederick Douglass (ganwyd Frederick Augustus Washington Bailey; tua Chwefror 1818 – 20 Chwefror 1895).[1] Ar ôl dianc o gaethwasiaeth yn nhalaith Maryland yn 1838, daeth yn arweinydd cenedlaethol y mudiad diddymu ym Massachusetts ac Efrog Newydd. Roedd yn enwog am ei areithiau a ysgrifau gwrth-gaethwasiaeth.
Frederick Douglass | |
---|---|
Ganwyd | Frederick Augustus Washington Bailey 14 Chwefror 1818 Talbot County |
Bu farw | 20 Chwefror 1895 o trawiad ar y galon Washington |
Man preswyl | Baltimore |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, diplomydd, llenor, hunangofiannydd, person busnes, golygydd, ymgyrchydd dros bleidlais i ferched, diddymwr caethwasiaeth, areithydd, golygydd ffilm, caulker, gwleidydd |
Swydd | Washington, D.C. Recorder of Deeds, llysgennad, United States Marshals Service |
Adnabyddus am | Narrative of the Life of Frederick Douglass, an American Slave |
Plaid Wleidyddol | plaid Weriniaethol |
Mudiad | Etholfraint, diddymu caethwasiaeth |
Priod | Anna Murray-Douglass, Helen Pitts Douglass |
Plant | Rosetta Douglass, Lewis Henry Douglass, Frederick Douglass Jr., Charles Remond Douglass |
Perthnasau | Aunt Hester, Fredericka Douglass Sprague Perry, Joseph Douglass |
Gwobr/au | Hall of Fame Cymdeithas Genedlaethol Gohebwyr Duon |
llofnod | |
Ysgrifennodd Douglass sawl hunangofiant, gan ddisgrifio ei brofiadau fel caethwas yn ei Narrative of the Life of Frederick Douglass, an American Slave (1845), a werthodd lawer o gopïau, ac a oedd yn ddylanwadol wrth hyrwyddo achos diddymu. Felly hefyd ei ail lyfr, My Bondage and My Freedom (1855). Mae ei hunangofiant olaf, Life and Times of Frederick Douglass (1881), yn ymdrin â digwyddiadau yn ystod y Rhyfel Cartref ac wedyn.
Roedd Douglass hefyd yn cefnogi pleidlais menywod yn weithredol, ac yn dal sawl swydd gyhoeddus. Daeth y person Affricanaidd-Americanaidd cyntaf i gael ei enwebu ar gyfer Is-lywydd yr Unol Daleithiau fel cyfaill-gwaith (running mate) Victoria Woodhull ar docyn Plaid Hawliau Cyfartal yn 1872.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ William S. McFeely (1991). Frederick Douglass. W.W. Norton & Company.