Viking F.K.

clwb pêl-droed Stavanger, Norwy

Clwb pêl-droed o ddinas Stavanger, Norwy, yw Viking Stavanger (yn swyddogol: Viking Fotballklubb neu, wedi ei dalfyrru, Viking FK). Sefydlwyd y clwb ar 10 Awst 1899. Chwaraeir y gemau cartref yn eu stadiwn, yw'r Viking-Stadion, sydd â lle i oddeutu 16,456 sedd.

Viking
Enw llawnViking Fotballklubb
LlysenwauDe mørkeblå (Y glas tywyll)
Sefydlwyd10 Awst 1899; 125 o flynyddoedd yn ôl (1899-08-10)
as Idrætsklubben Viking
MaesViking Stadion, Stavanger
(sy'n dal: 15,900)
ChairStig Christiansen
Head coachBjarne Berntsen
CynghrairEliteserien
20243. o 16
GwefanHafan y clwb
Lliwiau Cartref
Lliwiau Oddi cartref
Tymor cyfredol

Mae Viking Stavanger yn un o'r clybiau pêl-droed Norwyaidd mwyaf llwyddiannus gydag wyth teitl cynghrair a phum buddugoliaeth cwpan.

Hyd at y blynyddoedd 1966/67 a 1987/88 roedd y clwb yn cael ei gynrychioli ers sefydlu'r gynghrair Norwyaidd uchaf (Tippeliga) bob amser ynddo. Ar lefel Ewropeaidd, daeth y clwb yn adnabyddus am daflu Chelsea F.C. allan o Gwpan UEFA yn nhymor 2002/03 a thaf;u Sporting C.P. yn yr un twrnamaint yn 1999-2000. Llwyddodd y clwb i fynd drwyddo i rownd cystadlu Gwpan UEFA yn 2005–06.

Daeth y clwb i amlygrwydd yn yr 1930au ac roedd yr 1950au yn gyfnod da iddynt. Gellir gweld mae'r 1970au oedd yr oes aur wrth i'r clwb ennill 5 teitl Tippeliga.

Disgynodd y clwb o'r Uwch Gynghrair yn 2017, ond bu iddynt lwyddo i esgyn nôl i fyny wedi un tymor.

Stadiwm

golygu

Symudodd y clwb i stadiwm newydd, Viking-Stadion yn 2004. Cyn hynny arferau'r clwb chwarae yn y Stavanger Stadion, oedd â chapasiti o 17,555. ac wedi bod yn gartref i'r clwb ers ei sefydlu yn 1899.[1]

Prif Wrthwynebwyr

golygu

Cystadleuwyr mwyaf Viking yn lleol ac yn hanesyddol yw S.K. Brann, Bryne, Haugesund, Sandnes Ulf a Start. Cyfeirir at y cystadlu â Brann a Haugesund yn aml fel Vestlandsderbyet (darbi Gorllewin Norwy). Gelwir y gystadleuaeth â Start yn gyffredin fel Sørvestlandsderbyet (darbi De-orllewin Norwy). Mae Bryne, Haugesund a Sandnes Ulf i gyd wedi'u lleoli yn Rogaland, yr un sir â Viking. Bryne a Sandnes Ulf yw'r ddau wrthwynebydd agosaf yn ddaearyddol. Mae Bryne yn aml yn cael ei ystyried yn wrthwynebydd mwyaf Viking.[2] Tymor 2003 oedd y tymor diwethaf i Bryne a Viking chwarae yn erbyn ei gilydd yn y gynghrair, er bod y clybiau wedi cyfarfod yn y gwpan ers hynny.[3]

Cit ac Arwyddlun

golygu

Gwyn i gyd oedd lliwiau gwreiddiol y cit ym 1899.[4] Roedd hyn yn broblemus bryd hynny gan fod yr arwyddlun yn amryliw. Er mwyn osgoi gwaedu y lliwiau coch a melyn oedd ar fathodyn y clwb wrth iddynt gael eu golchi, roedd yn rhaid tynnu'r bathodyn o bob crys (gwyn) cyn ei olchi ac yna ei ail-gysylltu wedyn. O ganlyniad i hyn, newidiodd y clwb i liw glas tywyll, ac mae bellach yn llysenw ar ôl lliw glas tywyll eu crysau, De mørkeblå.

Mae bathodyn y clwb wedi'i siapio fel baner, ac wedi aros yn ddigyfnewid ers ffurfio'r clwb ym 1899. Nid yw siâp y faner yn anghyffredin i glybiau pêl-droed Norwy a ffurfiwyd yn ystod y cyfnod pontio o'r 19g i'r 20g; mae enghreifftiau eraill yn cynnwys I.K. Start a Fredrikstad F.K.

Cymru a Viking

golygu

Bu'r chwaraewr rhyngwladol dros Gymru, Kieffer Moore, yn chwarae i'r clwb am gyfnod byr yn 2015.

Anrhydeddau

golygu
  • Pencampwyr y Uwch Gynghrair Norwy: 8× (1958, 1972, 1973, 1974, 1975, 1979, 1982, 1991)
  • Pencwmpwyr Cwpan Norwy: 5× (1953, 1959, 1979, 1989, 2001)

Dolenni

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Viking Stadion". eliteserien.no (yn Norwyeg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-23. Cyrchwyd 22 Rhagfyr 2017.
  2. "Viking ute av cupen". www.nrk.no (yn Norwegian). NRK. 5 Mai 2018. Cyrchwyd 10 Chwefror 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  3. "Viking-treneren sjokkert over Bryne-fansen". www.vg.no (yn Norwegian). VG. 29 Mai 2013. Cyrchwyd 10 Chwefror 2019.CS1 maint: unrecognized language (link)
  4. Historien – Viking Fotball Archifwyd 6 Awst 2009 yn y Peiriant Wayback
  Eginyn erthygl sydd uchod am bêl-droed. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.