Mae VilaWeb yn wefan Gatalaneg a ffynhonnell newyddion dyddiol, a ffurfiwyd ym mis Mai 1995 gan y newyddiadurwyr Vicent Partal ac Assumpció Maresma. Roedd y cyfrwng ar-lein cyntaf i'w ymddangos yn gyfangwbl yn Gatalaneg,[1] a'r cyfrwng newyddion cyntaf yn gyfangwbl ar-lein yn Sbaen.[2]

 
Vicent Partal, sylfaenydd VilaWeb

Datblygodd VilaWeb o gyfeiriadur ar-lein o'r enw Infopista, a sefydlwyd gan Partal ym 1995. Cyn dechrau ar y fenter, roedd Partal wedi bod yn gyfrifol am reoli'r fersiwn ddigidol o'r cylchgrawn El Temps. Ysgrifennwyd yn Gatalaneg a lansiwyd ar-lein ym 1994 roedd El Temps y cyhoeddiad cyntaf yn Sbaen i sefydlu presenoldeb ar y we.[3]

Yn 2007 lansiwyd VilaWeb TV fel menter teledu dros y we. Gyda'r nifer cynyddol o fideos fe ail-gynlluniwyd y wefan yn 2010. Mae VilaWebTV hefyd ar gael fel sianel YouTube ac ar iTunes.

Mae Vilaweb yn cael ei ystyried fel y prif bapur newydd digidol iaith Gatalaneg gyda dros 750,000 o ddefnyddwyr unigol,[4]. Mae VilaWeb wedi ennill rhai o brif wobrau ar gyfer newyddiaduraeth Gatalaneg fel Gwobr Dinas Barcelona i Newyddiaduraeth a'r Wobr Newyddiaduraeth Genedlaethol.[5]

Cynnwys

golygu

Mae VilaWeb yn cynnwys cyfeiriadur we, rhifynnau lleol, fforwm-gwe a gwasanaethau eraill. Tan 2009 bu'n gyfrifol hefyd am gynnal y fersiwn ddigidol o'r papur newydd Catalaneg El Punt.

Ei brif wasanaeth yw VilaWeb ei hun, y gwasanaeth newyddion Catalaneg gydag adrannau arbennig ar bynciau megis diwylliant, technoleg a’r economi. Mae newyddion o sawl asiantaeth newyddion hefyd ar gael.

Mae colofnau barn gan gynnwys erthygl ddyddiol gan Vicent Partal ac erthyglau wythnosol gan ysgrifenwyr eraill fel Marta Rojals, Andreu Barnils, Xavier Montanyà Pere Cardús a Martxelo Otamendi golygydd Berria y papur newydd iaith Fasgeg.

+VilaWeb yw'r enw adran tanysgrifiad o'r gwasanaeth. Mae aelodau +VilaWeb yn derbyn newyddion, yn gallu creu blog personol ac yn cymryd rhan mewn nifer o fentrau newyddiaduraeth agored i'r dinesydd. Mae aelodau +VilaWeb yn talu tanysgrifiad o rwng 60 i 500 Ewro’r flwyddyn.

Ystafell Newyddion

golygu

Ym Medi 2009 agorwyd VilaWeb [6] ystafell newyddion yng nghanol Barceolona, yn agos i'r Rambla. Mae'r adeilad yn lleoliad newyddiaduraeth a darllediadau ac yn cynnwys man cyhoeddus i gynnal digwyddiadau. Mae darllenwyr yn gallu ymweld â'r ystafell newyddion ac mae'r adeilad yn cynnwys siop [7] lyfrau a chynnyrch diwylliannol.

Yn 2010 ysgrifennodd yr Athro Mar Iglesias o Brifysgol Alicant ei doethuriaeth PhD am VilaWeb.[8]

Gwasanaeth Rhyngwladol yn Saesneg

golygu

Yn Ionawr 2014 dechreuodd VilaWeb wasanaeth rhyngwladol yn Saesneg gan gydweithio gyda'r newyddiadurwr a golygydd Americanaidd Liz Castro gyda'r bwriad o ledu newyddion am Gatalonia ar draws y byd.[9]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Micó & Masip 2009: 125
  2. Micó & Masip 2009: 121
  3. Micó & Masip 2009: 120–121
  4. OJD-Nielsen *
  5. TV3
  6. Flickr *
  7. http://botiga.vilaweb.cat/
  8. pdf *
  9. Saeneg[dolen farw]
Micó, Josep Lluís (2009). "The fight of a minority language against the force of globalization: the case of Catalan on the Internet". In Gerard Goggin and Mark McLelland (eds.) (gol.). Internationalizing Internet Studies: Beyond Anglophone Paradigms. Routledge advances in internationalizing media studies series, no. 2 (arg. 1st hbk edn. of Taylor & Francis e-Library [2008]). New York: Routledge. tt. 112–127. ISBN 978-0-415-95625-3. OCLC 288894064. Unknown parameter |coauthors= ignored (help)CS1 maint: extra text: editors list (link)

Dolenni

golygu