Berria
Berria (Basgeg: Newyddion) yw'r unig bapur newydd dyddiol a gyhoeddwyd yn gyfan gwbl yn Euskera (yr iaith Fasgeg) ac sydd yn cael ei ddosbarthu i holl rannau Gwlad y Basg. Fe'i sefydlwyd yn dilyn cau lawr y papur iaith Fasgeg flaenorol Egunkaria (Papur newydd), gan lywodraeth Sbaen ar ôl cael ei gyhuddo o gael cysylltiadau gydag ETA. [1] Ystyriwyd gwaharddiad Egunkaria yn ymosodiad ar ryddid barn a'r iaith Fasged gan lawer o bobl yng Ngwlad y Basg a thu hwnt.[2] Wedi 7 mlynedd ym mis Ebrill 2010, cafodd y tîm golygyddol yn ddieuog a'u rhyddhau.[3][4] Ceir erthygl am gau Egunkaria yn 'The Phenomenon of Welshness II - is Wales too Poor t be Independent?' Archifwyd 2014-05-19 yn y Peiriant Wayback (Siôn T. Jobbins, Gwasg Carreg Gwalch, 2013).
Enghraifft o'r canlynol | papur newydd, cyhoeddwr |
---|---|
Gwlad | Gwlad y Basg, Sbaen |
Iaith | Basgeg |
Dechrau/Sefydlu | 21 Mehefin 2003 |
Lleoliad cyhoeddi | Andoain |
Aelod o'r canlynol | European Association of Daily Newspapers in Minority and Regional Languages |
Pencadlys | Andoain |
Gwladwriaeth | Sbaen, Ffrainc |
Gwefan | http://www.berria.eus |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Math | Papur newydd dyddiol |
---|---|
Golygydd | Martxelo Otamendi |
Sefydlwyd | 21 Mehefin, 2013 |
Iaith | Basgeg |
Pencadlys | Martin Ugalde Kultur Parkea, Andoain 20140 |
Gwefan swyddogol | berria.eus |
Cost | €1.30 |
Cyhoeddir Berria yn ddyddiol heblaw ar Ddydd Llun. Ymddangosodd y rhifyn cyntaf ar 21 Mehefin 2003. Mae pencadlys y papur yn Andoain, Gipuzkoa, Cymuned Ymreolaethol Gwlad y Basg. Mae hefyd canolfannau yn Vitoria-Gasteiz, Pamplona, Bilbao a Bayonne.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Del Olmo se basa en documentos de ETA para relacionar a 'Egunkaria' con la banda terrorista
- ↑ Denunciation act on second anniversary of Basque newspaper shutdown
- ↑ . La Audiencia Nacional absuelve a los cinco directivos de 'Egunkaria', Público, 12 Ebrill 2010.
- ↑ "Sentencia íntegra de la Audiencia Nacional sobre el caso Egunkaria" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2012-06-18. Cyrchwyd 2014-06-27.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Berria berria.eus