Dramodydd, bardd, awdur straeon byrion, ac ysgrifwr o Giwba yn yr iaith Sbaeneg oedd Virgilio Piñera (4 Awst 191218 Hydref 1979) a ystyrir yn un o lenorion pwysicaf Ciwba yn yr 20g. Mae ei ffuglen a'i farddoniaeth yn cyflwyno byd drwy gyfrwng yr absẃrd ac anobaith.

Virgilio Piñera
Ganwyd4 Awst 1912 Edit this on Wikidata
Cárdenas Edit this on Wikidata
Bu farw18 Hydref 1979, 19 Hydref 1979 Edit this on Wikidata
La Habana Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCiwba Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Prifysgol Havana Edit this on Wikidata
Galwedigaethbardd, ysgrifennwr, dramodydd, cyfieithydd Edit this on Wikidata

Ganwyd yn Cárdenas yn Nhalaith Matanzas a chafodd ei fagu mewn teulu dosbarth-gweithiol. Peiriannydd rheilffordd oedd ei dad, ac athrawes ysgol oedd ei fam. Astudiodd ym Mhrifysgol La Habana, ond gwrthododd amddiffyn ei draethawd ymchwil. Dyn anodd ei drin oedd Piñera, nad oedd yn hoff o ymaelodi â grwpiau neu fudiadau, a bu'n aml yn dibynnu ar ei deulu a'i gyfeillion am arian.[1]

Cafodd Piñera anghydfod â José Lezama Lima, ac o ganlyniad fe benderfynodd symud i'r Ariannin. Yno, cyfarfu â Jorge Luis Borges a'i gylch, a chyhoeddodd yn y cylchgronau Anales de Buenos Aires a Sur. Daeth yn gyfeillgar â'r llenor Pwylaidd Witold Gombrowicz, yr hwn a gafodd ddylanwad pwysig ar waith Piñera, er enghraifft ei nofel La carne de René (1952). Ymhlith ei weithiau eraill o'r cyfnod hwn mae'r gerdd hir La isla en peso (1943), sy'n ymwneud ag argyfwng diwylliannol Ciwba yn yr 20g, a'r gyfrol o straeon Cuentos fríos (1956). Roedd yn nodedig yn bennaf am ei ddramâu avant-garde, megis Electra Garrigó (1943), Jesús, ac Aire frío (1959).[2]

Dychwelodd Piñera i Giwba yn sgil Chwyldro 1959. Bu'n digio'r awdurdodau Castroaidd yn aml yng Nghiwba am iddo wrthod cydymffurfio ag ideoleg swyddogol y llywodraeth, a chafodd ei garcharu yn 1961 am "droseddau gwleidyddol a moesol", o ganlyniad i'w ysgrifau o blaid hawliau hoywon. Er hynny, enillodd wobr lenyddol bwysicaf y wlad, Gwobr Casa de las Américas, yn 1969 am ei ddrama Dos viejos pánicos.[1] Bu farw yn La Habana yn 67 oed.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 (Saesneg) Virgilio Piñera. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 12 Medi 2019.
  2. Jose Qiuroga, "Piñera, Virgilio" yn Encyclopedia of Latin American and Caribbean Literature 1900–2003, golygwyd gan Daniel Balderston a Mike Gonzalez (Llundain: Routledge, 2004), t. 437–8.