Vivien John
Arlunydd o Loegr oedd Vivien John (8 Mawrth 1915 – 20 Mai 1994) sy'n adnabyddus am ei phaentiadau.
Vivien John | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mawrth 1915, 1915 Dorset |
Bu farw | 20 Mai 1994 Llundain |
Dinasyddiaeth | Y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arlunydd |
Tad | Augustus John |
Mam | Dorelia McNeill |
Cafodd ei geni yn Alderney Manor yn Dorset, yn ferch i'r arlunydd Cymreig Augustus John a'i ail wraig Dorelia McNeill. Vivien oedd yr olaf o'u pedwar plentyn gyda'i gilydd.[1] Mynychodd yr Ysgol Celfyddyd Gain Slade o 1932 i 1934 a chafodd ei harddangosfa unigol gyntaf yn yr Cooling Gallery yn Llundain yn ystod 1935.[2][3] Wrth deithio gyda'i thad, ymwelodd â'r Eidal, Ffrainc ac yna Kingston, Jamaica, lle cynhaliwyd arddangosfa ar y cyd o'u paentiadau.[3] Treuliodd hi hefyd amser ym Mharis gyda'i modryb, yr arlunydd Gwen John.[3] Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, daeth hi'n nyrs gyda'r Groes Goch.[1]
Priododd Vivien y haematolegydd, Dr John White.[3] Parhaodd i beintio a chafwyd nifer o arddangosfeydd, tra oeddent yn byw dramor.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Frances Spalding (1990). 20th Century Painters and Sculptors. Antique Collectors' Club. ISBN 1 85149 106 6.
- ↑ David Buckman (2006). Artists in Britain Since 1945 Vol 1, A to L (yn Saesneg). Art Dictionaries Ltd. ISBN 0 953260 95 X.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 3.3 Victor Arwas (27 May 1994). "Obituary: Vivien John". Independent. Cyrchwyd 27 April 2020.