Volkswagen Camper

Llysenw a roddir yng ngwledydd Prydain ar y Volkswagen Math 2 yw'r Volkswagen Camper, sy'n gerbyd a gynhyrchwyd gan y cwmni ceir Volkswagen ers 1950. Yn yr Unol Daleithiau gelwir ef yn Bus, ond yr enwau swyddogol arno, sy'n dibynnu ar y corff yw: Transporter, Kombi neu Microbus. Roedd yn dilyn y "Beetle", sef y math cyntaf o gerbyd i'w gynhyrchu gan y cwmni wedi ei ailwampio ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.[9]

Volkswagen Math 2
Brasolwg
GwneuthurwrVolkswagen
Ail enw
  • Volkswagen Bus[1]
  • Volkswagen Camper[2]
  • Volkswagen Delivery Van[3]
  • Volkswagen Kombi[4]
  • Volkswagen Microbus[5]
  • Volkswagen Pick-up[6]
  • Volkswagen Transporter[7]
  • Volkswagen Van[8]
CynhyrchwydTachwedd 1949
Corff a siasi
DosbarthCerbyd Masnachol Ysgafn (M)
Math o gorffpanel van 4/5-drws
bws mini 4/5-drws
fan godi (pickup van) 2-ddrws (cab cyffredin)
4-drws fan godi (cab i nifer)
Gosodiadgyriant cefn
LlwyfanVolkswagen Group T platform
Cyd-destun
OlynyddVolkswagen Math 2 (T3)

Sbardunwyd y gystadleuaeth i gynhyrchu cerbydau tebyg, yn enwedig yn UDA, drwy lansio'n ddiweddarach y Ford Econoline, y Dodge A100, a'r Chevrolet Corvair 95 Corvan. Yn Ewrop (1947-1981), lansiwyd y fan Citroën H, y Renault Estafette a'r Ford Transit.

Roedd y cerbyd yn dilyn y "Beetle" poblogaid a bedyddiwyd ef drwy'r byd gyda nifer o enwau, ond herwydd ei gysylltiad gyda cyfnod yr hippes a'r grwp Beetles, efallai mai'r enw rhyngwladol mwyaf poblogaidd yw'r Hippie van/wagon.[10] Yn 2016 roedd yn parhau i fod yn gerbyd eiconig iawn.

Y ffatri ym Mrasil oedd yr olaf i beidio a chynhyrchu'r T2, a hynny ar 31 Rhagfyr 2013; roedd hyn yn dilyn nifer o reolaeu diogelwch newydd yn y wlad.[11] Roedd hyn yn garreg filltir eitha pwysig i'r cwmni Volkswagen a ffans y Camper.

Yn 2005 dechreuwyd cynhyrchu'r 5ed genhedlaeth: y T5.

Y Genhedlaeth gyntaf (T1; 1950–1967)

golygu

Roedd gan y Math 1 cyntaf (a gelwir y grwp hwn yn "Genhedlaeth gyntaf") raniad yn y ffenest flaen. Roedd y llysenwau'n cynnwys Microbus, Splitscreen a Splittie, ac rhowliodd allan o'r ffatri yn Wolfsburg am y tro cyntaf ar 8 Mawrth 1950. Roeddent yn dal i'w cynhyrchu ar ddiwedd 1967 ond ers 1956 o'r ffatri newydd yn Hanover. Injan a oedd yn cael ei oeri gan ddŵr oedd ganddo i ddechrau, 1,131 cc (69.0 cu in), DIN-rated 18 kW (24 PS; 24 bhp), injan flat-four-cylinder 'boxer' a oedd wedi'i leoli yng nghefn y cerbyd. Uwchraddiwyd hwn i 1200 – 1,192 cc (72.7 cu in) 22 kW (30 PS; 30 bhp) yn 1953.

Cynhyrchwyd fersiwn moethus yn 1951 o'r enw'r "Samba", a adnybyddir hefyd dan yr enw "Sunroof Deluxe".

Yr ail genhedlaeth (T2; 1967–1979)

golygu

Nid oedd gan y cerbydau hyn raniad yn y ffenestr. Fe'i cynhyrchwyd yn yr Almaen hyd at 1979 ac ym Mecsico cynhyrchwyd y Volkswagen Kombi a'r Panel rhwng 1970 a 1994. Gelwir y modelau a gynhyrchwyd cyn 1971 yn T2a (neu "Early Bay"), a modelau a wnaed wedi 1972 yn T2b (neu "Late Bay").

Volkswagen Kombi (T2). 1973-1980.
VW Kombi Silver Limited Edition a gynhyrchwyd ym Mrasil. 2005.
VW Kombi, a drowyd yn far tafarn yng Ngwlad Tai. 2007.
Volkswagen Math 2 (T3/Vanagon/T25)
Rhai o'r campers a gynhyrchwyd gan Volkswagen dros y blynyddoedd.

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Sales brochure for 1978 Volkswagen Bus". thesamba.com. VolksWagen. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  2. "Sales brochure for 1960 Volkswagen Camper". thesamba.com. Volkswagen. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  3. "Sales brochure for 1973 Volkswagen Delivery Van". thesamba.com. Volkswagen. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  4. "Sales brochure for 1953 Volkswagen Kombi". thesamba.com. Volkswagen. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  5. "Sales brochure for 1972 Volkswagen Microbus". thesamba.com. Volkswagen. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  6. "Sales flyer for 1959 Volkswagen Pick-Up". thesamba.com. Volkswagen. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  7. "Sales brochure for 1953 Volkswagen Transporter". thesamba.com. Volkswagen. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  8. "Sales brochure for 1953 Volkswagen Van". thesamba.com. Volkswagen. Cyrchwyd 29 Medi 2012.
  9. "History of the Volkswagen bus". Brinse.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-10. Cyrchwyd 19 Awst 2011.
  10. Patinkin, Mark (28 Gorffennaf 2009). "1969 was the most tumultuous and normal year". Providence Journal.
  11. Tisshaw, Mark (24 Hydref 2012). "End of the road for Volkswagen camper". Autocar.
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: