Telesgop Pegwn y De
Telesgop 10 metr o ddiamedr yw Telesgop Pegwn y De a leolwyd yng Ngorsaf Amundsen–Scott ym Mhegwn y De (Antartica). Cyfeirir ato'n aml gyda'r byrnod SPT (sef The South Pole Telescope). Mae wedi'i greu i gofnodi un rhan o'r spectrwm electromagnetig sef microdonnau gwan cefndirol o'r gofod (cosmic microwave background, neu CMB) sy'n canolbwyntio ar y rhannau hynny o'r sbectrwm sydd rhwng microdonnau, y 'tonnau milimetr' hynod uchel a'r tonnau is-filimetrau (ymbelydredd terahertz neu submillimeter-waves).[1]
Telesgop Pegwn y De yn Nhachwedd 2009 | |
Lleoliad | Pegwn y De, dim gwerth |
---|---|
Cyfesurynnau | 89°59′22″S 45°00′00″W / 89.9894°S 45°WCyfesurynnau: 89°59′22″S 45°00′00″W / 89.9894°S 45°W |
Uchder | 2.8 cilometr |
Adeilad | Tachwedd 2006–Chwefror 2007 |
Defnydd cyntaf | 16 Chwefror 2007 |
Math o delesgop | Telesgop Gregoraidd[*], radio telescope[*], cosmic microwave background experiment[*] |
Diamedr | 10.0 metr, 1 metr |
Arwynebedd y casglwr | 78.5 metr sgwâr |
Gwefan | pole.uchicago.edu |
Cwbwlhawyd yr astudiaeth cyntaf yn Hydref 2011, pan ganfyddwyd galaethau pell eitha mawr. Gosodwyd camera newydd yn y telesgop ar ddechrau 2012, camera llawer mwy senstitif, gyda chydraniad uwch, er mwyn mesur polareiddiad y golau a oedd yn treiddio i fewn iddo. Datblygwyd y camera hwn er mwyn mesur y Modd-B (neu'r cydran "Curl") o'r CMB a bolareiddiwyd.[2]
Mae'r seryddwyr sy'n ymwneud â'r Telesgop yn dod o nifer o wledydd, gan gynnwys Prifysgol Chicago, Prifysgol Califfornia, Berkeley, Prifysgol Case Western Reserve, Harvard/Arsyllfa Astroffiseg y Smithsonian, Prifysgol Colorado-Boulder a phrifysgol McGill, Illinois (yn Urbana-Champaign), California yn Davis, California, Ludwig Maximilian yn Munich, Labordy Cenedlaethol Argonne a Sefydlaid Safonnau a Thechnoleg yr Unol Daleithiau.
Caiff y Telesgop ei ariannu gan Sefydliad Cenedlaethol dros Wyddoniaeth, UDA.
Arsywi ar ficrodonnau ym Mhegwn y De
golyguPegwn y De yw'r brif fan i astudio'r donfedd-milimetr gan fod ei atmosffer mor denau. Saif 2.8 km/1.7 mi yn uwch na lefel y môr ac mae'r tymeredd oer yn sicrhau mai ychydig iawn o anwedd dŵr sydd yn yr aer.[3] Mae hyn yn hynod bwysig er mwyn astudio'r donfedd-milimetr, gan fod signalau o'r gofod yn cael eu hamsugno gan anwedd dŵr. Mae'r rhain, yna'n allyrru ymbelydredd sy'n drysu'r darlleniad a'r canlyniadau. Ffactor arall yw'r ffaith nad yw'r haul yn codi ac yn machlud, ac felly mae'r atmosffer yn eitha cyson, heb lawer o newidiadau. Yn ola, yn ystod y cyfnod hwn, heb olau dydd, nid yw golau'r haul yn amharu ar yr ystod-milimetr a astudir.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ J. E. Carlstrom. "The 10 Meter South Pole Telescope". arXiv:0907.4445.
- ↑ McMahon, J. (2001). "SPTpol: an instrument for CMB polarization". AIP Conf. Proc. 1185: 511–514. http://proceedings.aip.org/resource/2/apcpcs/1185/1/511_1.[dolen farw]
- ↑ Chamberlin, R. A. (2001). "South Pole Submillimeter Sky Opacity and Correlations with Radiosonde Observations". J. Geophys. Res. Atmospheres 106 (D17): 20101. Bibcode 2001JGR...10620101C. doi:10.1029/2001JD900208.