Beuno

nawdd-sant a goffeir yng Ngogledd Cymru

Sant Cymreig oedd Beuno (bu farw c.642). Mae'n fwyaf adnabyddus fel sylfaenydd clas Clynnog Fawr yng Ngwynedd.

Beuno
Ganwyd6 g, c. 570 Edit this on Wikidata
Teyrnas Powys Edit this on Wikidata
Bu farw21 Ebrill 640 Edit this on Wikidata
Clynnog Fawr Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Swyddabad Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl20 Ebrill, 21 Ebrill Edit this on Wikidata
TadBugi Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Mae'r unig fuchedd sydd ar gael yn hwyr, yn dyddio o tua 1350, yn Llyfr Ancr Llanddewi Brefi. Dywedir ei fod yn perthyn i deulu brenhinol Morgannwg, ac iddo gael ei eni ym Mhowys, ar lan Afon Hafren. Cafodd ei addysgu yng Nghaerwent cyn ymsefydlu yn Aberriw. Yn ddiweddarach bu yng Ngwyddelwern a Threffynnon, cyn ymsefydlu yng Nglynnog. Dywedir i'r tir i sefydlu'r clas yng Nghlynnog gael ei roi gan bennaeth o'r enw Gwyddeint, cefnder i frenin Gwynedd, Cadwallon ap Cadfan, oedd yn teyrnasu rhwng tua 620 a 633.

Dywedir fod y santes Gwenffrewi yn nith iddo. Yn ôl y traddodiad, syrthiodd pendefig ieuanc o'r enw Caradog mewn cariad a hi, a phan wrthododd hi ef, torrodd ei phen a chleddyf. Gosododd Beuno ei phen yn ôl ar ei hysgwyddau a'i hadfywio.

Eglwysi golygu

Mae'r eglwysi a gysegrwyd i Sant Beuno yn cynnwys Aberffraw a Trefdraeth ar Ynys Môn a Chlynnog, Penmorfa, Carnguwch, Pistyll, a Botwnnog yng Ngwynedd. Ym Mhowys mae Llanycil, Gwyddelwern, Aberriw a Betws Cydewain wedi eu cysegru iddo.

Mae ei ddydd gŵyl ar 21 Ebrill.

Rhestr Wicidata:

# Eglwys neu Gymuned Delwedd Cyfesurynnau Lleoliad Wicidata
1 Coleg Jeswitaidd Sant Beuno
 
53°15′26″N 3°22′51″W / 53.2571°N 3.3807°W / 53.2571; -3.3807 Sir Ddinbych Q7592665
2 Eglwys Beuno Sant, Penmorfa
 
52°56′25″N 4°10′20″W / 52.9402°N 4.17211°W / 52.9402; -4.17211 Dolbenmaen Q7592663
3 Eglwys Beuno Sant, Trefdraeth
 
53°12′24″N 4°23′03″W / 53.2067594°N 4.3842557°W / 53.2067594; -4.3842557
53°12′24″N 4°23′03″W / 53.2067°N 4.38428°W / 53.2067; -4.38428
Bodorgan Q7592664
4 Eglwys Sant Beuno
 
51°13′17″N 3°39′32″W / 51.2213°N 3.659°W / 51.2213; -3.659
51°13′17″N 3°39′33″W / 51.2214517°N 3.65911684°W / 51.2214517; -3.65911684
Porlock Q5192866
5 Eglwys Sant Beuno
 
52°57′08″N 4°29′23″W / 52.9521°N 4.48976°W / 52.9521; -4.48976 Pistyll Q17739791
6 Eglwys Sant Beuno
 
52°35′57″N 3°12′02″W / 52.599057°N 3.200607°W / 52.599057; -3.200607 Aberriw Q20714145
7 Eglwys Sant Beuno
 
52°33′42″N 3°17′39″W / 52.5618°N 3.2943°W / 52.5618; -3.2943 Betws Cedewain Q20714149
8 Eglwys Sant Beuno
 
52°56′57″N 4°25′17″W / 52.949077°N 4.4213921°W / 52.949077; -4.4213921 Pistyll Q29484060
9 Eglwys Sant Beuno
 
52°54′01″N 3°36′54″W / 52.900268°N 3.6149266°W / 52.900268; -3.6149266 Llanycil Q29502733
10 Eglwys Sant Beuno 52°53′40″N 4°25′14″W / 52.894373°N 4.420481°W / 52.894373; -4.420481 Gwynedd Q114567386
11 Eglwys Sant Beuno a Sant Pedr
 
51°58′35″N 3°00′58″W / 51.976364°N 3.016101°W / 51.976364; -3.016101 Llanveynoe Q26347277
12 Eglwys Sant Beuno a'r Santes Fair
 
53°17′37″N 3°16′57″W / 53.2937°N 3.28241°W / 53.2937; -3.28241 Chwitffordd Q17737961
13 Eglwys Sant Beuno, Aberffraw
 
53°11′27″N 4°28′00″W / 53.190715°N 4.466638°W / 53.190715; -4.466638 cymuned Aberffraw Q7592661
14 Eglwys Sant Beuno, Botwnnog
 
52°51′12″N 4°34′54″W / 52.853283°N 4.5816902°W / 52.853283; -4.5816902 Botwnnog Q29483977
15 Eglwys Sant Beuno, Gwyddelwern
 
53°00′34″N 3°22′50″W / 53.0094°N 3.38053°W / 53.0094; -3.38053 Gwyddelwern Q17741544
16 Eglwys Sant Beuno, Pontllyfni
 
53°01′16″N 4°21′55″W / 53.021°N 4.36522°W / 53.021; -4.36522 Clynnog Fawr Q17738584
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau golygu