Rhodri ap Dyfrig

arbenigwr yn y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg

Cyn Gomisiynydd Cynnwys Arlein S4C, blogiwr, ac arbenigwr yn y cyfryngau cymdeithasol Cymraeg yw Rhodri ap Dyfrig (ganwyd 28 Mehefin 1977) a adnabyddir hefyd fel Nwdls. Mae'n un o sefydlwyr y grwp technoleg gwybodaeth Cymraeg Hacio'r Iaith, a sefydlodd ar y cyd gyda Carl Morris a Rhys Wynne ar 30 Ionawr 2010.

Rhodri ap Dyfrig
Ganwyd28 Mehefin 1977 Edit this on Wikidata
Dolgellau Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Addysgdoethuriaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethymgynghorydd TG, blogiwr Edit this on Wikidata
Cyflogwr

Ganed Rhodri yn Nolgellau yn fab i Dyfrig Siencyn, arweinydd Cyngor Gwynedd ers 2017 a'i wraig Rhian Owen (1952-1994). Mae'n frawd i'r gohebydd ac awdur Elliw Gwawr. Safodd ei daid tadol J L Jenkins fel ymgeisydd Plaid Cymru yn etholaeth Meirionnydd yn etholiad 1966.

Wedi graddio mewn iaith a chyfathrebu ym Mhrifysgol Caerdydd (1995 – 1998) gweithiodd am gyfnod i Sgrin Cymru Wales (2002 - 2005) ac fel ymchwilydd gyda Mercator Media (Awst 2005 - Mai 2008). Cwbwlhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2014 gyda thraethawd ar Gydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol: Asesu dulliau cyfranogol a thorfol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Rhwng Chwefror 2014 a Thachwedd 2015 bu'n Gymrawd Technolegau Creadigol yn Aberystwyth; dyma'r cyfnod pan sefydlodd Nwdls Cyf, a ddaeth i ben yn Rhagfyr 2015.

Yn Rhagfyr 2015 fe'i penodwyd yn Gynhyrchydd Arlein (Cyfryngau Cymdeithasol) BBC Cymru, gan weithio o Gaerdydd, a gadawodd yn Awst 2016 pan benodwyd ef yn Gomisiynydd Cynnwys Arlein S4C.

Thesis ei ddoethuriaeth

golygu

Cwbwlhaodd ei ddoethuriaeth ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2014 gyda thraethawd ar: Cydgyfeiriant cyfryngol a'r economi ddigidol: Asesu dulliau cyfranogol a thorfol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Noda'r cyflwyniad i'r papur:[1]

Prif amcan y traethawd hwn yw asesu'r defnydd o ddulliau cyfranogol o gynhyrchu cyfryngau mewn ieithoedd lleiafrifol. Ymysg yr astudiaethau achos mae prosiect ymchwil hanes torfol o ddefnydd y Gymraeg ar y we rhwng 1989-2012. Drwy asesu'r hanes a'r dull torfol rhoddir trosolwg newydd ar weithgaredd y gymuned Gymraeg ar y we. Prif gyfraniad y traethawd yw'r cyfraniad at gofnodi hanes y we Gymraeg a'r ymchwil empirig gwreiddiol o ddulliau cynhyrchu cyfryngau cyfranogol yn y Gymraeg a thair iaith leiafrifol arall, gan nodi'r cymhlethdodau ymarferol, ieithyddol a gwleidyddol sy'n codi o ddefnyddio'r dulliau hyn. Hawlir nad yw damcaniaethau eingl-ganolog yn esbonio'n ddigonol effeithiau a phrosesau diwylliannol cyfranogiad a thorfoli mewn cymdeithasau amlieithog a bod angen gwell ystyriaeth o ddiwylliannau o gyfranogiad, cyfyngiadau mewn cyfalaf cyfranogol a chymhelliadau eraill megis atgyfnerthu hunaniaeth ieithyddol.

Arloesi

golygu

Fe'i rhestrir gan Brifysgol Aberystwyth ymhlith y 50 person mwyaf dylanwadol o fewn Addysg Uwch sy'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru.[2] Cofnododd hanes y genre gwyddonias mewn erthygl o'r enw 'Cymroddyfodoliaeth' ar wefan 'Medium' yn Nhachwedd 2014.[3] sy'n defnyddia’r hashnod #cymroddyfodol ar Twitter i roi sylw i'r genre yma yn y Gymraeg. Mae hefyd yn un o sefydlwyr y grwp technoleg gwybodaeth Cymraeg Hacio'r Iaith, a sefydlodd ar y cyd gyda Carl Morris a Rhys Wynne ar 30 Ionawr 2010. Mae ei linell-amser Hanes y We Gymraeg, a gyhoeddwyd yn 2014, yn cofnodi rhai o'r cerrig milltir pwysig yn hanes y we.[4]

Dolennau allanol

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Prifysgol Aberystwyth; adalwyd 12 Awst 2018.
  2. Gwefan Prifysgol Aberystwyth;[dolen farw] teitl: 'Dylanwad Dr Rhodri ap Dyfrig'; adalwyd 11 Awst 2018.
  3. medium.com; gwefan medium.com;] adalwyd 11 Awst 2018.
  4. Llyfr; teitl: The Routledge Companion to Global Internet Histories; Google Books; gol: Gerard Goggin, Mark McLelland. adalwyd 11 Awst 2018.