Walford, Letton and Newton
Plwyf sifil yn Swydd Henffordd, Gorllewin Canolbarth Lloegr, ydy Walford, Letton and Newton. Ei enw Cymraeg yw "Rhyd Helyg".
Math | plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Henffordd (Awdurdod Unedol) |
Poblogaeth | 86 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Henffordd (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.3471°N 2.8998°W |
Cod SYG | E04000897 |
- Gofal; ceir pentref arall o'r enw Walford, Ross-on-Wye.
Cyfeirir at "Ryd Helyg" yn Descriptio Cambriae, disgrifiad o Gymru gan Gerallt Gymro wrth iddo ddisgrifio maint Cymru. Dywed Gerallt:
- Mewn hyd, o Borth Gwygir ym Môn i Borth Ysgewin yng Ngwent, ymestyn am ryw daith wyth niwrnod; ond mewn lled o Borth Mawr Tyddewi, hynny yw, yr harbwr mawr, i Ryd Helyg, a elwir Walford yn awr yn Saesneg, dros ryw daith pedwar diwrnod yr ymleda. Y mae’n wlad a amddiffynnir yn y modd cadarnaf gan fynyddoedd uchel, dyffrynnoedd dwfn iawn, coedydd eang, afonydd a chorsydd.
Cyfeiriadau
golyguDisgrifiad o Gymru gan Gerallt Gymro - adnodd arlein ar Porth Coleg Cymraeg Cenedlaethol