Descriptio Kambriae
Llyfr topograffyddol am Gymru ar ddiwedd y 12g gan yr awdur ac eglwyswr Gerallt Gymro yw'r Descriptio Kambriae neu'r Disgrifiad o Gymru. Fe'i ysgrifennwyd gan y llenor Cambro-Normanaidd tua'r flwyddyn 1194 gydag ychwanegiadau a diwygiadau eraill hyd tua 1215.
Enghraifft o'r canlynol | traethawd |
---|---|
Awdur | Gerallt Gymro |
Dyddiad cyhoeddi | 1194 |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Gyda'r Hanes y Daith Trwy Gymru (1189), mae'n un o ddau lyfr enwog am Gymru o waith Gerallt ac yn ffynhonnell bwysig iawn am ein gwybodaeth o Gymru a'r Cymry yng nghyfnod yr awdur. Er mai darlun o Gymru trwy lygaid Cambro-Normaniad a geir a'i fod felly ymhell o fod yn ddiduedd, dyma'r unig lyfr o'i fath am Gymru cyn y Cyfnod Modern.
Cynnwys
golyguRhennir y llyfr yn ddwy adran fawr. Yn y gyntaf ceir nodweddion hyglod y wlad a'i phobl, ym marn yr awdur. Ceir disgrifiad o ddaearyddiaeth Cymru, tras y Cymry a'u tywysogion, teyrnasoedd Cymru, y cantrefi a'r esgobaethau, arferion cymdeithasol y Cymry fel eu lletygarwch a'u gwisg, eu doniau a'u llenyddiaeth, a'u cariad at y Ffydd.
Yn yr ail adran ceir eu nodweddion llai dymunol ynghyd â chyngor ymarferol i'r Normaniaid am sut i oresgyn y wlad. Gwelir amwysedd yr awdur fel gŵr o dras gymysg yma - roedd ei fam, Nest, yn Gymraes - a phwysleisia sawl gwaith nad tasg hawdd fyddai oresgyn y Cymry balch a dewr.
Cyfieithiad
golygu- Thomas Jones (gol.), Gerallt Gymro (Caerdydd, 1937). Disgrifiad o Gymru a Hanes y Daith Trwy Gymru.
- Cymru Gerallt Gymro – Disgrifiad o Gymru ar Borth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol