Wallace & Gromit in The Curse of the Were-Rabbit
Ffilm gan Nick Park a Steve Box a sy'n serennau Peter Sallis, Helena Bonham Carter a Ralph Fiennes ydy Wallace & Gromit in The Curse of the Were-Rabbit (2005). Yn y ffilm, mae Wallace & Gromit â melltith y Cwningen-ddyn.
Enghraifft o: | ffilm animeiddiedig |
---|---|
Lliw/iau | lliw |
Gwlad | y Deyrnas Unedig, Unol Daleithiau America |
Dyddiad cyhoeddi | 7 Hydref 2005, 13 Hydref 2005, 4 Medi 2005, 14 Hydref 2005 |
Genre | ffilm ffantasi, ffilm i blant, ffilm gomedi, ffilm am ddirgelwch, ffilm am gyfeillgarwch, ffilm deuluol |
Cyfres | ffilmiau DreamWorks, Wallace a Gromit |
Rhagflaenwyd gan | Wallace and Gromit's Cracking Contraptions |
Olynwyd gan | A Matter of Loaf and Death |
Prif bwnc | sabotage, village community |
Lleoliad y gwaith | Lloegr |
Hyd | 85 munud |
Cyfarwyddwr | Nick Park, Steve Box |
Cynhyrchydd/wyr | Peter Lord, Carla Shelley, David Sproxton |
Cwmni cynhyrchu | DreamWorks Animation, Aardman Animations |
Cyfansoddwr | Julian Nott |
Dosbarthydd | UIP-Dunafilm, DreamWorks Pictures |
Iaith wreiddiol | Saesneg |
Sinematograffydd | Dave Alex Riddett |
Gwefan | https://www.dreamworks.com/movies/wallace-and-gromit-the-curse-of-the-were-rabbit |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Dyma oedd y ffilm Wallace and Gromit lawn gyntaf i gael ei rhyddhau ac fe'i crëwyd yn y DU. Cynhyrchwyd y ffilm gan DreamWorks Animation a Aardman Animations, a chafodd ei rhyddhau gan DreamWorks Pictures. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Nick Park a Steve Box yn y stiwdios animeiddio ym Mryste.
Adrodda'r ffilm hanes y dyfeisiwr ecsentrig Wallace (lleisir gan Peter Sallis) a'i gi deallus ond tawel, Gromit, wrth iddynt geisio achub trigolion pentref sy'n cael eu plagio gan gwningen wedi'i mwtadu.
Mae The Curse of the Were-Rabbit yn cyflwyno nifer o gymeriadau newydd ac fe'i lleisir gan Helena Bonham Carter a Ralph Fiennes. Roedd y ffilm yn llwyddiant masnachol a chyda'r beirniaid ffilmiau ac enillodd nifer o wobrau gan gynnwys Wobr yr Academi am y Ffilm Orau wedi'i Animeiddio.
Lleisiau Saesneg
golygu- Peter Sallis - Wallace/Hutch
- Ralph Fiennes - Victor Quartermaine
- Helena Bonham Carter - Campanula Tottington
- Peter Kay - PC Mackintosh
- Nicholas Smith - Y Parch Clement Hedges
- Liz Smith - Mrs. Mulch
- Edward Kelsey - Clive Growbag
- Ben Whitehead - Mr. Leaching
- Robert Horvath - Mr. Dibber
- Noni Lewis - Mrs. Girdling
- Geraldine McEwan - Miss. Thripp
- Vincent Ebrahim - Mr. Caliche
- John Thomson - Mr. Windfall
- Mark Gatiss - Miss. Blight
- Peter Atkin - Mr. Crock