Walter Colman
Roedd Walter Colman (1600–1645) yn ffrier Ffransisgaidd Seisnig.[1]
Walter Colman | |
---|---|
Ganwyd | 1600 Cannock |
Bu farw | 1645 Carchar Newgate |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater | |
Galwedigaeth | ffrier |
Bywyd
golyguGaned Colman yn Cannock, Swydd Staford, i deulu bonheddig a chyfoethog. Enw ei dad oedd Walter Coleman. Yn ddiweddarach rhoddodd teulu ei fam, y Whitgreaves, loches i Siarl II ym 1651 yn Mosley Hall ger Wolverhampton.[2]
Gadawodd Colman â Lloegr yn ŵr ifanc i astudio yn y Coleg Seisnig, Douai. Ym 1625 daeth yn aelod o Urdd Ffransisgaidd Douai, gan dderbyn yr enw mewn crefydd Christopher o St. Clare. Dyma'r enw sy'n cael ei ddefnyddio yn y mwyafrif o ffynonellau hanesyddol sy'n cyfeirio ato.[3]
Ar ôl cwblhau ei flwyddyn o nofyddiaeth, dychwelodd i Loegr ar alwad yr uwch dad daleithiol, y Tad John Jennings. Wedi dychwelyd cafodd ei garcharu ar unwaith oherwydd iddo wrthod tyngu'r llw o deyrngarwch i'r frenhiniaeth Brotestannaidd. Wedi'i ryddhau trwy ymdrechion ei ffrindiau, aeth Colman i Lundain, lle cafodd ei gyflogi yng ngwaith y weinidogaeth, a lle, yn ystod ei gyfnodau hamdden, cyfansoddodd La dance machabre, neu Gornest Marwolaeth (Llundain, 1632 neu 1633), trafodaeth mewn medr a rhythm cain ar bwnc marwolaeth, a gyflwynwyd i'r Frenhines Henrietta Maria, consort y Brenin Siarl I.
Dychwelodd Colman i Douai i adfer ei iechyd wedi ei gyfnod yn y carchar. Pan dorrodd erledigaeth grefyddol allan o'r newydd ym 1641, dychwelodd i Loegr. Ar 8 Rhagfyr yr un flwyddyn cafodd ei ddwyn i dreial, ynghyd â chwech o offeiriaid eraill, yr oedd dau ohonynt yn Fenedictiaid, roedd y pedwar arall yn aelodau o'r clerigwyr seciwlar. Cawsant i gyd eu condemnio i gael eu Crogi, diberfeddu a chwarteru ar 13 Rhagfyr, ond trwy ymyrraeth llysgennad Ffrainc gohiriwyd y dienyddiad am gyfnod amhenodol. Arhosodd Colman yng Ngharchar Newgate am nifer o flynyddoedd. Wedi blino'n lân ac yn ddioddef o newyn a llymder oherwydd ei garchariad bu farw ym 1645.[4][5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Anne Hope, Franciscan Martyrs in England (London, 1878), xi, 123 sqq
- ↑ Fennessy, I. (2004, Medi 23). Coleman, Walter (1600–1645), Franciscan friar, missionary, and writer. Oxford Dictionary of National Biography. Adalwyd 11 Gorffennaf 2019
- ↑ Thaddeus, The Franciscans in England (London, 1898), 62, 72, 106
- ↑ Leo, Lives of the Saints and Blessed of the Three Orders of St. Francis (Taunton, 1887), IV, 368.
- ↑ Mason, Certamen Seraphicum (Quaracchi, 1885), 211, 228