Crogi, diberfeddu a chwarteru

cosb statudol yng Nghymru a Lloegr ar gyfer dynion a ddyfarnwyd yn euog o deyrnfradwriaeth

O 1351 Crogi, diberfeddu a chwarteru oedd y gosb statudol yn Lloegr ar gyfer dynion a ddyfarnwyd yn euog o deyrnfradwriaeth.[1]

Diberfeddu Hugh Despenser yr Ieuengaf

Y Gosb

golygu

Byddai’r troseddwr yn cael:

  • Ei glymu i ffrâm bren
  • Yn cael ei dynnu gan geffylau i'r man dienyddiad[2]
  • Ei grogi am gyfnod byr neu nes ei fod bron yn farw
  • Ei anwirio (torri ei organau rhywiol)
  • Ei ddiberfeddu. Byddai’r perfedd yn cael ei daflu i dân wrth ymyl y troseddwr fel ei fod yn ei weld a'i glywed yn llosgi
  • Ei ddienyddio trwy dorri ei ben
  • Torri gweddill ei gorff i bedwar chwarter; byddai’r gweddillion wedyn yn cael eu harddangos mewn mannau amlwg ar draws y wlad fel rhybudd i’r sawl na welodd y gosb.

Am resymau gwedduster cyhoeddus, byddai menywod a ddyfarnwyd yn euog o deyrnfradwriaeth yn cael eu llosgi wrth y stanc.

Hanes cychwynnol y gosb

golygu

Dienyddio Dafydd ap Gruffudd

golygu

Er bod pob un o elfennau’r gosb wedi eu defnyddio yn flaenorol ar gyfer troseddwyr, dyfeisiwyd yr union drefn uchod er mwyn dienyddio'r tywysog Dafydd ap Gruffudd ar ôl iddo droi yn erbyn y brenin Edward I o Loegr a chyhoeddi ei hun yn Dywysog Cymru ac Arglwydd Eryri. Gwylltiwyd Edward gymaint gan wrthryfel Dafydd nes iddo fynnu cosb nofel[3]. Felly, yn dilyn ei ddal a'i roi ar brawf ym 1283, am ei frad cafodd ei lusgo gan geffyl i'w le dienyddio. Fe'i cosbwyd fel a ganlyn: am ladd uchelwyr Lloegr cafodd hanner ei grogi. Am ladd uchelwyr ar ŵyl sanctaidd y Pasg cafodd ei ddiberfeddu gan losgi ei berfeddion o flaen ei lygaid. Am gynllwynio i ladd y brenin mewn gwahanol rannau o'r deyrnas cafodd ei gorff ei chwarteru a'u danfon i bedair wahanol ddinas yn Lloegr a gosodwyd ei ben ar ben Tŵr Llundain.[4]

Wedi lladd Dafydd ap Gruffudd defnyddiwyd crogi, diberfeddu a chwarteru fel y gosb am bob achos o deyrnfradwriaeth. Ymysg y bobl amlwg i ddioddef y gosb roedd:

Maelgwyn Fychan

golygu

Roedd Maelgwyn Fychan ap Maelgwyn ap Rhys yn un o Arglwyddi Ceredigion. Ar ôl cwymp Tywysogaeth Cymru, "wrth weled y wlad yn cael ei gorthrymu, cododd gwŷr Ceredigion a'r cyffiniau mewn gwrthryfel yn erbyn y brenin" Edward I ym 1294. Cafodd Maelgwyn ei orchfygu, a'i gymryd i Henffordd lle cafodd ef a dau arglwydd Cymreig arall eu crogi, diberfeddu a chwarteru.[5]

Syr William Wallace

golygu

Roedd Syr William Wallace yn un o arwyr yr Alban yn ystod ymgais y Brenin Edward I o Loegr i orchfygu’r wlad. Wedi ei ddal a’i rhoi ar brawf ym 1305, bu'n rhaid iddo wisgo coron o ddail llawryf ar gyfer ei ddienyddiad. Cafodd ei lusgo i Smithfield, lle cafodd ei ddienyddio. Cafodd ei ben ei osod ar Bont Llundain a danfonwyd ei chwarterau i Newcastle, Caerferwig, Stirling a Perth.[6]

Andrew Harclay, Iarll 1af Caerliwelydd

golygu

Roedd Harclay yn un o arweinwyr byddin y brenin Edward II yn y rhyfeloedd yn erbyn yr Alban. Wedi dod yn rhwystredig efo diffyg gweithgarwch y brenin yn erbyn yr Alban penderfynodd nad oedd modd ennill y frwydr a phenderfynodd trafod heddwch efo’r Brenin Robert Bruce ar ei liwt ei hun. Gan nad oedd wedi cael caniatâd y brenin ar gyfer y trafodaethdau, cafodd ei ddedfrydu'n teyrnfradwr, heb achos llys, a’i grogi, diberfeddu a’i chwarteri ar 3 Mawrth 1323.[7]

Llywelyn Bren

golygu

Roedd Llywelyn Bren yn bendefig Cymreig o Senghennydd ac yn ddisgynnydd i Ifor Bach. Roedd Llywelyn wedi bod ar delerau da gyda'r arglwydd Normanaidd lleol Gilbert de Clare ond pan fu farw Gilbert cymerodd Pain de Turberville, arglwydd Coety, drosodd a dechreuodd ymddwyn yn drahaus. Cwynodd Llywelyn i Edward II, brenin Lloegr, ond heb gael boddlonrwydd. Cododd Llywelyn a'r Cymry lleol mewn gwrthryfel ym mlaenau Morgannwg. Ni pharodd y gwrthryfel am hir gan fod brenin Lloegr a rhai o arglwyddi'r Mers yn anfon nifer o filwyr i Forgannwg i'w gorchfygu. Cymerwyd Llywelyn Bren yn garcharor i Dŵr Llundain lle cafodd ei ddedfrydu i farwolaeth ac oddi yno cafodd ei ddwyn i Gaerdydd a'i ddienyddio.[8]

Hugh Despenser yr Ieuengaf

golygu

Roedd Hugh Despenser, Barwn 1af Despenser ac Arglwydd Morgannwg yn siambrlen i’r brenin Edward II ac yn ffefryn iddo. Bu rhai yn honni bod Edward a Hugh yn cael perthynas hoyw. Roedd y frenhines, Isabella yn casáu Hugh. Tra bu Isabella yn Ffrainc i drafod telerau cytundeb rhwng ei gŵr a brenin Ffrainc aeth i berthynas gyda Roger Mortimer. Penderfynodd y ddau i oresgyn Lloegr a disodli’r brenin. Pan ddechreuodd y goresgyniad bu nifer fawr o bendefigion Lloegr yn ochri gyda’r frenhines, ac aeth Dispenser a’r brenin ar ffo. Cawsant eu dal ger Castell Nedd, carcharwyd y brenin a gorfodwyd ef i ildio'r goron. Dygwyd Dispenser i lys yn Henffordd, un o'r cyhuddiadau a ddygwyd yn erbyn Despenser oedd ei fod wedi cam ddefnyddio grym y goron i lofruddio Llywelyn Bren[8], cafwyd yn euog o deyrnfradwriaeth a chafodd ei ddedfrydu i’w grogi, diberfeddu a’i chwarteri.[9]

Llywelyn ap Gruffudd Fychan

golygu

Sgweier o Gaeo, Sir Gaerfyrddin, oedd Llywelyn ap Gruffudd Fychan ac un o arweinwyr lleol Gwrthryfel Owain Glyn Dŵr yn y Deheubarth. Cynlluniodd fagl i dwyllo lluoedd Seisnig oedd yn chwilio am Owain Glyn Dŵr yn 1401. Cynorthwyodd y twyll Owain i ddianc. Fel cosb am ei weithredoedd, gorchmynodd Harri IV iddo gael ei grogi, diberfeddu a’i chwarteri tu allan i gastell Llanymddyfri ym mis Hydref o'r un flwyddyn. Halltwyd ei weddillion a'u danfon i drefi eraill yng Nghymru i'w harddangos er mwyn atal gwladgarwyr rhag ymuno â byddin Owain.[10]

Diwygio’r ddeddf teyrnfradwriaeth

golygu

Cyn 1351 roedd y diffyniad o deyrnfradwriaeth yn amwys. Roedd y cyhuddiad o frad yn cael ei selio ar y disgwyliad y byddai pob person yn deyrngar i’w sofran ar bob pwnc, a mater i’r brenin a’i barnwyr oedd pennu os oedd y teyrngarwch honno wedi ei dorri. Bu ustusiaid Edward III yn or-selog wrth ddehongu pa weithgareddau oedd i’w hystyried yn frad. Bu galwadau seneddol i egluro'r gyfraith. Mewn ymateb i’r galwadau cyflwynodd Edward Ddeddf Brad 1351. Gwnaeth y gyfraith newydd gulhau’r diffiniad o frad, nag oedd wedi bodoli o'r blaen, gan rannu'r hen drosedd ffiwdal i ddau ddosbarth, teyrnfradwriaeth a mân frad. Roedd teyrnfradwriaeth yn cael ei gyfyngu i ymdrechion i danseilio awdurdod y brenin trwy ymosod ar ei statws fel sofran a bygwth ei hawl i lywodraethu. Roedd mân frad yn gyfeirio at ladd meistr (neu arglwydd) gan ei was, gŵr gan ei wraig, neu esgob gan ei glerigwr. Byddai dynion a chafwyd yn euog o fân frad yn cael eu llusgo a'u crogi, tra byddai menywod yn cael eu llosgi am y ddwy drosedd.[11]

Pasiwyd Deddf Brad newydd yn y Senedd ym 1790 wnaeth cyfnewid y gosb i grogi yn hytrach na llosgi i fenywod[12]. Pasiwyd Deddf Brad arall ym 1814 lle fyddai dynion yn cael eu llusgo a’u crogi i farwolaeth cyn darnio eu cyrff[13]. O dan Ddeddf Troseddau yn Erbyn Person 1828 chafwyd gwared â’r gwahaniaeth rhwng mân frad a llofruddiaethau eraill.

Y bobl olaf i gael eu dedfrydu i’w crogi, diberfeddu a’u chwarteri oedd siartwyr Casnewydd John Frost, Zephaniah Williams a William Jones ond cafodd y gosb ei chyfnewid i drawsgludiaeth[14]

Cafwyd gwared â’r gosb yn llwyr o dan Ddeddf Fforffedu 1870 a wnaeth pennu crogi[15], ac yn y lluoedd arfog saethu, fel yr unig foddion i ddienyddio bradwr; er ni wnaeth y ddeddf cael gwared â hawl y brenin i ofyn am dorri pen troseddwr yn hytrach na’i grogi. Cafodd y gosb o dorri pen ei diddymu ym 1973. Cafodd y gosb eithaf ei diddymu am lofruddiaeth yng Nghymru a Lloegr ym 1969, ond ni chafodd ei dileu am deyrnfradwriaeth hyd 1997 er mwyn caniatáu i Brydain arwyddo'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.

Cymry eraill i ddioddef y gosb

golygu

Nodyn am yr enw

golygu

Y term Saesneg am y gosb yw hanged, drawn and quartered; sydd wedi peri peth dryswch, gan fod y llusgo tu nôl i geffyl yn digwydd cyn y crogi [28]. Mae’r Oxford English Dictionary yn dweud bod y gair drawn yn cyfeirio at y weithred o lusgo’r coluddion allan o’r corff, yn sicr mae'r drefn yn awgrymu hynny'n gryf [29]. Dyna pam defnyddir y term crogi, diberfeddu a chwarteru yn yr erthygl hon, yn hytrach na chrogi, llusgo a chwarteru.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Beadle, Jeremy; Harrison, Ian (2008), Firsts, Lasts & Onlys: Crime, London: Anova Books, ISBN 1-905798-04-0
  2. STRAIGHT DOPE What do "drawn and quartered" and "keelhauling" mean?; adalwyd 6 Mehefin 2917
  3. History Headlines The First Nobleman Hung, Drawn and Quartered
  4. Bellamy, John (2004), The Law of Treason in England in the Later Middle Ages (Reprinted ed.), Cambridge: Cambridge University Press, ISBN 0-521-52638-8
  5. Williams, Benjamin; Enwogion Ceredigion tud 176 erthygl Maelgwyn Fychan adalwyd 15 Gorffennaf 2021
  6. National Wallace Monument Sir William Wallace, Guardian of Scotland
  7. English Heritage THE RISE AND FALL OF ANDREW HARCLAY
  8. 8.0 8.1 Y Bwgraffiadur LLYWELYN ap GRUFFYDD, neu LLYWELYN BREN (bu f. 1317 )
  9. The Telegraph 31/03/2017 Abbey body identified as gay lover of Edward II
  10. BBC Cymru Hanes Llywelyn ap Gruffydd Fychan
  11. The Guardian 17/10/2014 Treason Act: the facts
  12. Treason Act 1790 (repealed 30.9.1998)
  13. a Treason Act 1814
  14. Newport Past Chartist Trial 16th January 1840 Sentence pronounced by Lord Chief Justice Tindal on John Frost, Zephaniah Williams, William Jones.
  15. History / 19th Century Crime and Punishment / Sentences - Hanging / Last beheading
  16. Y Bywgraffiadur THOMAS, WILLIAM (bu f. 1554 )
  17. Y Bywgraffiadur POWELL, EDWARD ( 1478? - 1540 ), diwinydd Pabaidd
  18. Y Bywgraffiadur SALUSBURY, SALISBURY, SALESBURY (TEULU), Llewenni a Bachygraig
  19. Y Bywgraffiadur JONES, EDWARD (bu f. 1586 ), cynllwynwr
  20. Y Bywgraffiadur GWYN, RICHARD ( c. 1537 - 1584 ), neu RICHARD WHITE, merthyr Catholig
  21. Catholic_Encyclopedia_(1913)/Ven._Edward_Jones
  22. Y Bywgraffiadur DAVIES, WILLIAM (bu f. 1593 ), cenhadwr dros grefydd Eglwys Rufain a merthyr .
  23. Catholic Online Saints & Angels Saint John Jones
  24. Y Bywgraffiadur ROBERTS, JOHN ( 1576 - 1610 ), mynach Benedictaidd a merthyr
  25. "Catholics Who Were Hung, Drawn, and Quartered". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-06-08. Cyrchwyd 2017-06-05.
  26. Y Bywgraffiadur JONES, JOHN, Maesygarnedd, sir Feirionnydd, a'i deulu ‘y brenin-leiddiad’
  27. Y Bywgraffiadur LEWIS, DAVID ( alias Charles Baker ) ( 1617 - 1679 ), Jesiwit a merthyr
  28. English Language & Usage Stack Exchange What does “drawn” mean in “Hung, drawn and quartered”?
  29. Oxford English Dictionary drawn ystyr 5